screen careers logo

Gyrfaoedd Sgrin: Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyntaf yw llaw dde’r Cyfarwyddwr. Mae’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyntaf yn trefnu’r amserlen ffilmio, ac yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwr a’r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth a phenaethiaid adran eraill i sicrhau bod y ffilmio’n effeithlon.

David Bispham

Bu David Bispham yn gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu am yr 11 mlynedd diwethaf. Dechreuodd fel Rhedwr Llawr a bu’n gweithio fel 3ydd ac 2il Gyfarwyddwr Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Cynorthwyol 1af ar amrywiaeth eang o gynyrchiadau teledu, cerddoriaeth a ffilm. Llynedd bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Prif Uned ar gyfer October Films ac mae bellach wedi cyfarwyddo 14 pennod o ddramâu dogfen ar draws pedair cyfres wahanol ar gyfer eu cynyrchiadau Discovery ID. Mae wedi cyfarwyddo naw ffilm fer, wyth fideo cerddoriaeth a chyd-gyfarwyddo ei ffilm nodwedd gyntaf. Dosbarthwyd y ffilm hon yn rhyngwladol mewn wyth tiriogaeth wahanol o amgylch y byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar nifer o brosiectau ffilm a theledu eraill ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio gyda chriw a thalent ar bob lefel.

portrait of david bispham

“As a first assistant director, you are basically the director’s right hand man, you are in charge of the schedule.” - David Bispham