Rare Beasts
Mae Mandy yn fam, yn awdures ac yn nihilydd. Mae Mandy yn fenyw fodern mewn argyfwng. Mae’n magu ei mab, Larch, yng nghanol y chwyldro ffeministaidd, yn ceisio dod i delerau â gwewyr ysgariad ei rhieni, ac hefyd yn ysgrifennu am gariad nad yw’n bodoli mwyach. Yna, daw dyn cythryblus ar ei thraws, dyn sy’n chwilio am synnwyr o hunan-werth, o ymberthyn ac sy’n ceisio adfer ei hunaniaeth gwrywaidd.
Dewisiwyd Rare Beasts, ffilm nodwedd gyntaf dewr Billie Piper fel cyfarwyddwr, ar gyfer Gŵyl Ffilm Fenis, Gŵyl Ffilm y BFI Llundain a SXSW, a bydd yn cael ei rhyddhau’n y DU yn 2020.