still from jelly featuring two people standing in a cave and holding hands while they look at a welsh flag decorated with fairy lights

Clinig Coffi a chyfarfodydd un-i-un Ffilm Cymru a BFI NETWORK Wales yn Wrecsam

28th June 2024, 11:00

Ar y cyd â FOCUS Wales a 73 Degree Films, mae Ffilm Cymru Wales yn cynnal sesiwn rwydweithio a gweithdy hamddenol yn Tŷ Pawb yn Wrecsam rhwng 11am a 1pm, 28 Mehefin. Bydd cyfle i drefnu sesiwn un-i-un gyda’n Rheolwr Datblygu Talent ar ôl hynny.  

Dewch draw i glywed mwy am ein hamrywiaeth o gymorth ariannol, i edrych ar astudiaethau achos o ffilmiau rydyn ni wedi’u hariannu, ac i ddysgu am ein cyfleoedd datblygu talent presennol a’r rhai sydd ar y gweill – gan gynnwys cynllun ffilmiau byrion Beacons eleni (cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 19 Gorffennaf).  

Darperir te, coffi a bisgedi.

Mae hon yn sesiwn am ddim a bydd yn arbennig o ddefnyddiol i awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr sydd wedi’u geni neu eu lleoli yng Nghymru, neu’r rheini sy’n awyddus i gydweithio â nhw.

Ar ôl y Clinig Coffi, gallwch drefnu apwyntiad un-i-un gyda Tracy Spottiswoode, Rheolwr Datblygu Talent Ffilm Cymru.
 
Mae’r cyfarfodydd un-i-un yn para hyd at 15 munud a gallant fod yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Does dim rhaid i chi baratoi unrhyw beth ymlaen llaw. Dydyn ni ddim yn gallu adolygu deunyddiau ar gyfer ceisiadau – fel sgriptiau, deciau cyflwyno neu gyllidebau – ond rydyn ni’n awyddus i glywed mwy am eich uchelgeisiau o ran gwneud ffilmiau ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein cyllid, meini prawf cymhwysedd, y broses ymgeisio, neu helpu gyda chyngor cyffredinol ar yrfaoedd.

  • Cyn cofrestru, rydyn ni’n argymell eich bod yn taro golwg ar ein Canllawiau, ein Cwestiynau Cyffredin, a’r adnoddau pellach sydd ar gael ar ein gwefan. Efallai fod eich cwestiynau wedi cael eu hateb yn barod yma. 
  • Os ydych chi’n unigolyn B/byddar, yn anabl, yn niwrowahanol neu os oes gennych amhariad ar eich clyw neu’ch golwg, mae rhagor o gymorth ac addasiadau ar gael. Cysylltwch â ni drwy e-bost neu dros y ffôn (gweler y manylion cyswllt ar ein gwefan) cyn gynted â phosibl i drafod eich gofynion yn gyfrinachol.