Gŵyl Arswyd Abertoir Yn Dathlu Ugain Mlynedd O Godi Ofn
Bydd Gŵyl Arswyd Abertoir, un o wyliau ffilm hynaf Cymru, yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed ym mis Tachwedd eleni, gyda rhaglen 5 diwrnod o premieres, clasuron gothig a gwesteion arbennig iawn.
Gan agor gyda The Bride of Frankenstein (James Whale), yn ei phen-blwydd yn 90 oed, bydd llinyn gothig yr ŵyl hefyd yn cynnwys dangosiadau o The Old Dark House (James Whale, 1932), Eyes Without a Face (Georges Franju, 1960) a phremière’r DU o adferiad 4K newydd sbon Severin Films o The Ghost (1963) gan Riccardo Freda.
Bydd y cyfarwyddwr Taratoa Stappard yn ymuno â’r ŵyl am sesiwn holi ac ateb yn dilyn première’r DU o’i ffilm gothig Māori fodern, Mārama (2025).
Ymhlith y perfformiadau mawr yn yr ŵyl mae’r cyfansoddwr ffilm a enwebwyd am BAFTA, Simon Boswell (gyda dros 150 o sgoriau i’w enw gan gynnwys Shallow Grave, Santa Sangre a Phenomena). Gyda chriw bwerus o gerddorion sydd wedi gweithio gyda phobl fel Mick Jagger, Liam Gallagher, Madonna a Paul Weller, bydd ei fand llawn yn chwarae sioe fyw ymdrochol sydd wedi cael ei disgrifio fel “Pink Floyd yn cwrdd â’r Velvet Underground, dan arweiniad Bernard Herrmann ar asid.”
Yn ogystal, bydd yr awdur arswyd cwlt Garth Marenghi (Garth Marenghi’s Darkplace, Channel 4) yn galw heibio ar ei daith o amgylch y DU i gyflwyno ei sioe lyfrau un dyn diweddaraf, This Bursted Earth, yn dilyn llwyddiant ysgubol ei deithiau Terrortome ac Incarcerat a gafodd glod gan y beirniaid, a werthodd dros 50,000 o docynnau ledled y DU ac Ewrop.
Mae premières eraill yn yr ŵyl yn cynnwys y ddrama anhygoel Touch Me (Addison Heimann, 2025), y ffilm arswyd gwerin Indiaidd Bokshi (Bhargav Saikia, 2025), a’r ffilm ddogfen Theatre of Horrors (David Gregory, 2025), sy’n amlinellu hanes theatr Grand Guignol ym Mharis.
Hefyd yn cael eu dangos mae ffilm gyntaf hynod boblogaidd y digrifwraig Japaneaidd Yuriyan Retriever, Mag Mag (2025), teyrnged Eurospy Reflection in a Dead Diamond (Hélène Cattet a Bruno Forzani, 2025), a ffilm ddirgel sy’n hir-ddisgwyliedig. Yn cloi'r ŵyl bydd Queens of the Dead (2025) gan Tina Romero.
Mae'r seren gwlt Lynn Lowry yn dychwelyd i'r ŵyl ar gyfer dangosiad o The Crazies (1973) gan George A. Romero, a bydd ffrind hirdymor i'r ŵyl, Victoria Price - merch Vincent Price - yn cyflwyno dangosiad sylwebaeth fyw arbennig iawn o Theatre of Blood (1973), yn ogystal â chyflwyniad ar ffilmiau ei thad yn tynnu sylw at y cyfnod 20 mlynedd yr oedd ar anterth ei yrfa.
Gan ddathlu clasur cwlt gyda chysylltiad anhygoel â Chymru, mae rhaglen Abertoir 2025 hefyd yn cynnwys dangosiad o glasur cwlt Michael Mann The Keep (1983), ynghyd â phremiere y DU o'r ffilm hir-ddisgwyliedig A World War II Fairy Tale (Stewart Buck a Stéphane Piter, 2025), ffilm ddogfen newydd sbon am y broses gythryblus o wneud y ffilm, a bydd yn archwilio ei chysylltiad annisgwyl â Chymru yn y ffilm ddogfen fer, Into the Darkness: On-set in Wales (2025).
Fel bob amser, mae'r ŵyl hefyd yn cynnwys cystadleuaeth ffilmiau byrion, yn arddangos 28 o ffilmiau o bob cwr o'r byd, gyda'r ceisiadau Ewropeaidd yn cystadlu am wobr fawreddog, y Méliès d’argent.
Cynhelir Gŵyl Arswyd Abertoir rhwng 12-16 Tachwedd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae tocynnau llawn yr ŵyl yn £85, gyda thocynnau dydd cyfyngedig yn £35 a thocynnau unigol ar gael hefyd. Gellir dod o hyd i'r rhestr lawn a'r holl fanylion ar www.abertoir.co.uk, a thrwy ddilyn yr ŵyl ar draws y cyfryngau cymdeithasol.
