Gallwch wylio’r ffilm fer Baich ar AM
Y ffilm fer ddiweddaraf i gael ei ffrydio ar ein proffil AM yw Baich gan Mared Swain, gyda Hanna Jarman a Steffan Rhodri yn serennu ynddi.
Mae gan Kath ddau o blant ac mae bywyd yn anioddefol. Mae’n rhaid iddi ddianc. Un diwrnod, mewn gweithred fyrbwyll, mae’n gadael y tŷ â’r plant yn sgrechian, gan gau’r drws yn glep ar ei hôl. Mae angen pum munud ar ei phen ei hun, ond cyn pen dim mae ar goll, heb wybod sut i fynd adref. Ar goll mewn hunllef. Yn gwbl ddiymadferth. Yn methu datrys y pos.
Dechreuodd yr awdur-gyfarwyddwr Mared Swain ei gyrfa yn Y Labordy, rhaglen ddatblygu broffesiynol Ffilm Cymru Wales ar gyfer gwneuthurwyr ffilm sy’n gweithio yn y Gymraeg. Mae newydd gael ei henwebu am wobr ‘Breakthrough’ BAFTA Cymru am ei gwaith ar y ddrama drosedd Cleddau ar gyfer S4C.
Cynhyrchwyd Baich gan Hannah Thomas o Severn Screen, trwy gynllun ffilmiau byrion Beacons Ffilm Cymru Wales