Datblygu Ffilmiau Nodwedd
Mae Ffilm Cymru yn datblygu ffilmiau nodwedd byw, dogfennol ac wedi’u hanimeiddio ar gyfer cynulleidfaoedd sinema sy’n cael eu harwain gan awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr sydd wedi’u geni yng Nghymru neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Mae ein cronfa ddatblygu yn cyfuno arian y Loteri Genedlaethol a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Ffilm Prydain drwy BFI NETWORK.
Rydym eisiau rhoi ffilmiau o Gymru ar y map drwy feithrin ffilmiau annibynnol o Gymru sydd yn anghonfensiynol, uchelgeisiol a chywrain. Yn benodol, rydyn ni’n awyddus iawn i hyrwyddo lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y byd ffilmiau a gwthio ffiniau’r hyn rydyn ni’n eu hystyried yn ffilmiau Cymru. Rydym yn croesawu cyd-gynyrchiadau, gwaith yn Iaith Arwyddion Prydain, yn y Gymraeg, ac mewn ieithoedd lleiafrifol eraill, yn ogystal â phrosiectau sy’n arbrofi gyda ffurf ac arddull.
Mae ein cronfa ddatblygu wedi’i diweddaru yn cyfuno ein cronfa ddatblygu Gorwelion flaenorol ar gyfer talent sy’n dod i’r amlwg â’n cronfa ddatblygu ar gyfer talent sefydledig. Bydd hyn yn ein galluogi i sianelu mwy o arian tuag at dalent newydd a gwneud penderfyniadau priodol ar yr hyn sydd ei angen ar bob prosiect a thîm.
Pwy all wneud cais?
- Awduron unigol neu unrhyw gyfuniad o dimau o awduron, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr gydag o leiaf un o’r rolau arweiniol hynny’n cael eu llenwi gan dalent a aned neu a leolir yng Nghymru. Dylai’r ymgeisydd fod yn ddeiliad hawliau ar gyfer y prosiect.
- Bydd angen i bob aelod o’r tîm craidd sy’n ymwneud â’r prosiect (awdur, cynhyrchydd a chyfarwyddwr fel y bo’n berthnasol) allu dangos cefndir creadigol fel rhan o’r cais. Gall hyn fod ar ffurf ffilm, teledu, theatr neu gelfyddyd naratif arall.
Am beth alla i wneud cais?
- Gallwch wneud cais am gymorth gyda chostau datblygu un ffilm hyd nodwedd (gan gynnwys ffilmiau wedi’u hanimeiddio) neu ddogfen, sydd wedi’i hanelu at gynulleidfaoedd sinema.
- Gallwch wneud cais am ddyfarniadau datblygu bach (hyd at £10k) neu ddyfarniadau mawr (hyd at £24,999) ar gyfer cam datblygu penodol. Gallai’r cam hwn fod yn ddrafft cyntaf, yn waith drafft pellach neu’n brawf o gysyniad neu’n waith pecynnu.
Bydd Ffilm Cymru yn blaenoriaethu cymorth ar gyfer ffilmiau sy’n cyd-fynd â’n Blaenoriaethau Cyllido, sef:
- Gwneuthurwyr ffilmiau o Gymru sydd yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd
- Ffilmiau sy’n cael eu harwain gan wneuthurwyr ffilmiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o safbwynt nodweddion gwarchodedig neu anfantais economaidd-gymdeithasol.
- Ffilmiau sy’n berthnasol i gynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n draddodiadol gan ffilmiau nodwedd gan gynnwys ffilmiau Cymraeg.
- Ffilmiau â gwerth artistig cryf, sy’n cymryd risg gyda thalent, cynnwys neu ffurf y byddai’r sector masnachol yn cael trafferth ei gefnogi
- Ffilmiau sy’n portreadu Cymru a diwylliant Cymru mewn ffyrdd newydd ac anghonfensiynol.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Oni bai ein bod wedi cytuno ar ffordd arall o wneud cais gyda chi (gweler cymorth Mynediad isod) dylech wneud y canlynol:
- Darllen y Canllawiau
- Llwytho’r ffurflen gais i lawr a’i llenwi
- Anfon y ffurflen wedi’i llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol angenrheidiol at applications@ffilmcymruwales.com
Dyddiadau cau
Cewch gyflwyno eich cais unrhyw bryd ond bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu o gwmpas y dyddiadau cau canlynol:
- 3 Chwefror 2025, hanner dydd
- 3 Mehefin 2025, hanner dydd (Dogfen ac Hanimeiddio yn unig)
- 14 Hydref 2025, hanner dydd
Gellir ystyried ceisiadau datblygu ar gyfer prosiectau sydd eisoes yn y grŵp datblygu y tu allan i’r dyddiadau cau hyn.
Beth sydd ei angen arnaf i ymgeisio?
Ynghyd â’ch ffurflen gais, bydd gofyn i chi gyflwyno CVs ar gyfer eich tîm craidd, ac:
- Ar gyfer dyfarniadau bach: Amlinelliad o stori sy’n tua 2,000-3,000 o eiriau a sampl ysgrifennu hyd llawn
- Ar gyfer dyfarniadau mawr: Ymdriniaeth o stori sy’n tua 4,800-6,000 o eiriau o leiaf, a sampl ysgrifennu hyd llawn
- Ar gyfer dyfarniadau bach a mawr, lle mae cyfarwyddwr wedi’i atodi: Dolen wylio weithredol ar gyfer gwaith sampl hyd llawn gan y cyfarwyddwr.
Cael gafael ar gefnogaeth a chynhwysiant
Rydym ni’n credu mewn sector sgrin sy’n gweithio i bawb ac rydym ni’n frwd dros ehangu mynediad at y sector honno.
Mae cymorth i wneud cais ar gael i ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft Unigolion byddar neu drwm eu clyw, Pobl anabl neu niwro-amrywiol, neu bobl sydd â nam ar eu golwg. Cysylltwch â ni i ddweud sut gallwn ni helpu. Er enghraifft, gallwn dalu am ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfarfod gyda ni cyn gwneud cais, darparu cymorth ysgrifenedig i ymgeiswyr dyslecsig, ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, neu gytuno ar fformatau eraill ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddeciau sleidiau. Chi fydd yn ein harwain ni.
Manylion Cyswllt
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu geisiadau am fynediad, cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriad isod cyn dyddiad cau’r cais:
Ihsana Feldwick, Cydlynydd Talent ihsana@ffilmcymruwales.com neu ffonio 02922 676711 a gadael neges gan roi eich enw, rhif, amser o’r dydd pan mae’n hwylus eich ffonio, gan ddweud eich bod yn gofyn am gymorth mynediad.