a black and white photo of Swansea featuring the city and sea

Ffilm Cymru yn cyflwyno: Storïau 60 Eiliad - Abertawe, gyda Charlotte James

Mae gennych chi 60 eiliad i adrodd eich stori am Abertawe i'r byd - beth ydych chi'n mynd i'w ddweud?

Mae rhaglen Storïau 60 Eiliad - Abertawe, yn canolbwyntio ar y broses greadigol ac ymarferol o saernïo ffilmiau byrion 60 eiliad. 

Bydd y rhaglen pedwar diwrnod hon yn amhrisiadwy i unrhyw un sydd eisiau datblygu eu sgiliau adrodd stori, yn ogystal â datblygu eu sgiliau creu ffilmiau gweledol ac ymarferol.

Tiwtor

Mae Charlotte James yn awdur a chyfarwyddwr o Gymoedd De Cymru. Mae ei gwaith wedi'i wreiddio yn y gymuned lle cafodd ei magu—yn llawn dygnwch, hiwmor a chalon—ac mae'n angerddol am adrodd storïau sy'n adlewyrchu gwirioneddau bywyd dosbarth gweithiol. Gan gyfuno comedi dywyll â delweddau swrrealaidd, hiraethus, mae gwaith Charlotte yn herio stereoteipiau blinderus ac yn cynnig golwg ffres, ddi-flewyn-ar-dafod ar y byd y mae hi'n ei adnabod orau. Mae’n gyd-sylfaenydd Bleak Fabulous. Mae ei gwaith wedi’i arddangos yn Sefydliad Martin Parr ac wedi derbyn canmoliaeth feirniadol ryngwladol. Cynhyrchwyd ei ffilm fer gyntaf, Doss House, gan Maisie Williams o dan ei chwmni cynhyrchu RAPT , a chafodd ei dewis ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Byrion Llundain fel rhan o They Call Us Working Class.

Mae Charlotte bellach yn datblygu ei hail ffilm fer ac yn ysgrifennu ei ffilm nodwedd gyntaf—prosiectau sydd, fel ei holl waith, yn cael eu gyrru gan gymeriad, cymuned, a chariad dwfn at y lle y mae'n ei alw'n gartref. Mae'n aelod balch o SCYMRU, grŵp o wneuthurwyr ffilmiau o Gymru. Mae Charlotte yn dod â phobl ynghyd trwy stori, hiwmor, a llygad craff am yr hyn sy’n brydferth ac yn rhyfedd mewn bywyd bob dydd.

charlotte james

Y Sut

Bydd 15 o gyfranogwyr yn ymateb â'u llais creadigol eu hunain ac yn dysgu sut i ddod â'u hysgrifennu'n fyw drwy ddelweddau ffilm a llun, sain a golygu (gan ddefnyddio dyfais ffôn clyfar). Gall y ffilmiau gael eu hysbrydoli gan waith ysgrifennu (ffuglen fflach, cerddi, cyfweliadau neu ddarnau llafar) a fydd wedi’i ddatblygu ar y rhaglen. 

Bydd Storïau 60 Eiliad Abertawe yn helpu’r cyfranogwyr i:

  • Creu cerdyn galw i’w llais creadigol
  • Gwneud eu cynnwys ffurf fer yn fwy deniadol a sinematig.

Yn ystod y gweithdy bydd cyfranogwyr yn:  

Diwrnod 1, Dydd Iau 4ydd Medi 10am-3pm: Stori a Naratif 

  • Edrych ar wahanol bosibiliadau naratif ffurf fer.
  • Sefydlu stori a naratif.
  • Cynhyrchu darn o ysgrifennu creadigol wedi'i ysbrydoli gan eu syniad.

Diwrnod 2, Dydd Gwener 5ed Medi 10am-3pm: Creu'r Delweddau

  • Troi’n dechnegol gyda chamera ffôn clyfar ac archwilio eu gallu i gynhyrchu delweddau wedi'u recordio o ansawdd uchel. 
  • Edrych ar gyfansoddiad, arddulliau a thechnegau.
  • Cynllunio saethiadau ar gyfer ffilm fer. 

Diwrnod 3, Dydd Iau 11eg Medi 10am-3pm: Ffilmio’r Weledigaeth

  • Recordio stori gan ddefnyddio ffôn clyfar.

Diwrnod 4, Dydd Iau 18fed Medi 10am-3pm: Sesiwn Ôl-gynhyrchu

  • Dysgu sut i olygu'r cyfan at ei gilydd.
  • Ychwanegu trac sain Foley, naratif addas neu gerddoriaeth.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer:

  • Unrhyw un 18+ sy'n byw a/neu'n gweithio yn Abertawe* sydd eisiau datblygu sgiliau creu ffilmiau a chreu cerdyn galw creadigol ar gyfer eu talent adrodd stori.
  • Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o greu ffilmiau.
  • Ni fydd gennych unrhyw gredydau proffesiynol fel gwneuthurwr ffilmiau (awdur / cynhyrchydd / cyfarwyddwr).

*(rhaid i chi ddarparu cyfeiriad ar gyfer eich gweithle yn Abertawe os nad oes gennych gyfeiriad cartref yn Abertawe)

Mae gennym 15 lle ar gael ar y rhaglen hon, a bydd y cyfranogwyr yn cael eu dewis ar sail eich cais a sut y bydd yn cefnogi eich taith greadigol. 

Caiff y rhaglen ei chynnal yn lleoliad yng nghanol Abertawe.

Mae bwrsariaethau ar gael ar gyfer teithio yn Abertawe a'r cyffiniau (bydd angen cyflwyno derbynebau).

Bydd cinio a lluniaeth yn cael eu darparu. 

Y dyddiad cau i wneud cais am le yw dydd Mercher 6fed Awst.

Ein nod yw dod yn ôl atoch heb fod yn hwyrach na dydd Mawrth 12fed Awst.

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe fel rhan o brosiect Sgiliau i Abertawe.