Ethel & Ernest
Yn seiliedig ar lyfr gwobrwyol Raymond Briggs, mae’r ffilm nodwedd hon, sydd wedi ei hanimeiddio â llaw, yn cynnig darlun hoffus ac annwyl o fywyd dau o bobl gyffredin sy’n byw mewn cyfnod anghyffredin, gyda’r gymdeithas yn newid yn aruthrol o’u hamgylch.
Ble i Wylio
DVD, Amazon Prime, YouTube, Sky Store, iTunes
Adnodd Addysg
Mewn partneriaeth â Lupus Films, Thud Media ac Into Film, bu i Ffilm Cymru gynhyrchu pecyn addysg i gyd-fynd ag Ethel & Ernest sy’n berthnasol i nifer o feysydd a phynciau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion 8-11 mlwydd oed. Mae’r adnoddau’n defnyddio amrywiaeth o fideos, lluniau llonydd a gwaith sain sy’n berthnasol i’r ffilm.