Bethany Davies
Oed: 22
O: Caerdydd
Cynhyrchiad: Dream Horse
Adran: Camera
“Mae pwy ydych chi’n eu hadnabod a’r cysylltiadau sydd gennych chi yn y diwydiant yn golygu llawer wrth weithio mewn ffilm a theledu, a heb hynny, mae’n anodd gwybod ble i ddechrau. Ar ben hynny, mae yna ffactorau eraill megis gwybod ble i chwilio am waith, teithio i leoliadau a chostau eraill.
Mae Troed yn y Drws wedi:
- Rhoi’r hyder i mi i weithio yn y diwydiant
- Rhoi cyfle i mi sylweddoli fy mod yn gallu gwneud y gwaith
- Fy ngalluogi i wneud cysylltiadau â phobl o’r diwydiant
- Rhoi’r sgiliau i mi fel fy mod yn gallu ymgeisio y tu fewn a’r tu allan i’r diwydiant
- Trefnu cludiant a thalu costau teithio
“Ers fy lleoliad Troed yn y Drws rwyf wedi cychwyn ar brentisiaeth dechnegol gyda Chanolfan y Mileniwm Cymru, ble rwy wedi gallu defnyddio’r sgiliau roeddwn i wedi’u magu trwy’r lleoliad i wneud gwaith technegol mewn theatr. Rwy’n teimlo fod hynny’n rhywbeth na fyddwn i wedi gallu ei wneud heb yr hyder a’r sgiliau a gefais i drwy Troed yn y Drws.”
“Ers y lleoliad rwyf wedi argymell Troed yn y Drws i bobl rwy’n adnabod ac sy’n chwilio am brofiad mewn ffilm a theledu. Mae’n gyfle mor dda ac rwy’n meddwl y dylai unrhyw un gyda diddordeb mewn ffilm a theledu rhoi cynnig arno. Byddwch yn cael y profiad rydych chi ei angen ac fe fyddwch yn gwneud cysylltiadau gyda phobl wych.”