Tracy Spottiswoode

Rheolwr Datblygu Talent
Rhagenwau: Hi / She / Her
Gwaith Tracy yw cyflwyno strategaeth ddatblygu talent ddiweddaraf Ffilm Cymru, gan gefnogi gyrfaoedd gwenuthurwyr ffilm newydd a phrofiadol o Gymru drwy gynnig arian, digwyddiadau, hyfforddiant a chyfleoedd amrywiol.
Mae Tracy yn wneuthurwr ffilm sydd wedi ennill tair gwobr BAFTA Cymru. Dechreuodd ei gyrfa yn y diwydiannau creadigol fel actor a dylunydd llwyfan, cyn symud i faes ysgrifennu a chyfarwyddo ar gyfer theatr, radio, gwaith animeiddio, ffilm a gwaith trochi ym maes XR.
O 2010-2017 Tracy oedd Swyddog Gweithredol Datblygu Ffilm Cymru Wales a Rheolwr RHWYDWAITH y BFI. Bu’n goruchwylio datblygiad talent a gwaith nodwedd, gan uwch-gynhyrchu dros 40 o ffilmiau byr, a rheoli cynlluniau hyfforddi a mentora mewn partneriaeth ag S4C, BBC, Hijinx a Gŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris, ymhlith eraill.
Yn 2018 derbyniodd Tracy ddyfarniad Cymru Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ymchwilio a datblygu’r gwaith o adrodd straeon XR. Arweiniodd hyn at greu A Signal Across Space / Arwydd Drwy’r Awyr, y ffilm artistig 360VR gyntaf yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2022.
Mae ei ffilm fer LGBTQ ddiweddar - Sally Leapt Out Of The Window Last Night - wedi ennill sawl gwobr mewn gwyliau rhyngwladol, gan gynnwys gwobr ar gyfer y Cyfarwyddwr Benywaidd Gorau, y Ffilm LGBT Orau a Gwobr Ffilm Fer Cwîar Chapter. Mae’n parhau i ddatblygu ffilmiau nodwedd a phrosiectau trochi, a gan ei bod yn angerddol dros eirioli a chefnogi talent y byd ffilm yng Nghymru, mae’n falch iawn o ailymuno â Ffilm Cymru Wales fel Rheolwr Datblygu Talent.