Siobhan Lynn Brennan

Swyddog Datblygu
Rhagenwau: Hi / She / Her
Mae Siobhan yn gweithio ar draws y llechen Ddatblygu, gan ddatblygu ffilmiau nodwedd byw, dogfen, a ffilmiau wedi eu hanimeiddio ar gyfer cynulleidfaoedd sinema, dan arweiniad awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr a aned neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Cyn ymuno â Ffilm Cymru yn 2020, bu Siobhan yn gweithio fel cyfarwyddwr theatr llawrydd, fel hwylusydd a darllenydd sgriptiau, yn arbennig ar ysgrifennu newydd. Mae hi wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau gan gynnwys Theatr y Sherman, National Theatre Wales, The Other Room, Theatr Clwyd, Theatre Uncut, English Touring Theatre, British Council a Canolfan y Celfyddydau Chapter. Roedd yn aelod o raglen Cyfarwyddwyr JMK a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Carne. Mae ganddi radd MA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Warwick.
Yn Ffilm Cymru, mae hi wedi gweithio fel Cynhyrchydd Gweithredol ar y ffilm fer Rebels and Renaissance, a ariannwyd gan Rwydwaith y BFI a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae hi wedi cynllunio a chyflwyno rhaglenni sgiliau a hyfforddiant, gan weithio mewn cymunedau ledled Cymru i wella cynhwysiant economaidd-gymdeithasol yn y diwydiannau sgrîn. Mae hi wedi cefnogi prentisiaid ar set ar gynyrchiadau fel Save the Cinema (Sky), Willow (Disney), ac ar nifer o ffilmiau byr Rhwydwaith y BFI. Mae Siobhan yn rhugl yn y Gymraeg.
Mae Siobhan bellach yn gweithio ar draws y llechen Ddatblygu i gefnogi gwneuthurwyr ffilm o Gymru i ddatblygu ffilmiau nodwedd yn Saesneg ac yn Gymraeg.