Lee Walters

Prif Weithredwr
Mae Lee yn weithiwr proffesiynol yn y Diwydiannau Creadigol gyda gyrfa amrywiol dros 15 mlynedd yn y BBC, yn arwain at rôl yn canolbwyntio ar gyfathrebu fel Uwch Reolwr Newid i wireddu pencadlys newydd BBC Cymru yng nghanol Caerdydd.
Gan ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 2020, Lee oedd Rheolwr Rhaglen Clwstwr - rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol a oedd yn cefnogi cwmnïau a gweithwyr llawrydd i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sgrin.
Yn fwy diweddar, mae wedi gweithio fel Uwch Gynhyrchydd/Rheolwr Cronfeydd ar gyfer Media Cymru, yn gyfrifol am reoli’r tîm Cyflawni Ymchwil a Datblygu, yn ogystal â chynnal a goruchwylio prif gystadlaethau cyllid eilaidd Media Cymru.