Kim Warner

Pennaeth Cynhyrchu
Rhagenwau: Hi /She / Her
Mae Kim yn arwain ar y gwaith o gefnogi awduron, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a’u ffilmiau. Mae’n gweithio gyda’r Prif Weithredwr i lunio polisi, ac ar weithgareddau sy’n ymwneud â chyllid ac hyfforddiant er mwyn cefnogi sector sgrîn gynaliadwy yng Nghymru, sy’n cael ei hysbrydoli gan bartneriaethau agos gyda sefydliadau bach lleol, yn ogystal â gyda chwmnïau sgrîn mawr ledled y byd.
Bu Kim yn Bennaeth Caffael ym Mercury Media a Journeyman Pictures, gan sefydlu llwyfannau SVOD ar gyfer y ddau gwmni, a hyrwyddo cysylltiadau gyda The Guardian a The Independent. Cyn hynny bu’n gweithio i’r Works Media ac i Scala Productions. Fel cynhyrchydd annibynnol mae ei gwaith yn cynnwys ffilmiau fel Claude Lanzmann, gafodd ei enwebu am wobr Grierson, Cinema Eye Honours, IDA ac am Oscar.
Daw Kim o Ogledd Cymru ac mae ganddi radd MA mewn Saesneg Iaith a Llenyddiaeth o Brifysgol Rhydychen, a diploma mewn gwneud ffilmiau o Ysgol Ffilm Ryngwladol Paris - diploma go ddiwerth a dweud y gwir! Teimla Kim yn angerddol dros hyrwyddo'r rhyfeddol a'r uchelgeisiol; straeon sinematig gan wneuthurwyr ffilm sydd â rhywbeth arbennig i'w ddweud, straeon na fyddai neb yn disgwyl iddynt ddod o Gymru. Ei nod yw hyrwyddo gwaith gwneuthurwyr ffilm sy’n perthyn i’r dosbarth gweithiol, ac mae'n frwd dros wella’r ddealltwriaeth o’r anfanteision sy’n bodoli yn ein diwydiant i gynifer o gyfranogwyr.