Kiah Simpson

portrait photo of kiah simpson

Swyddog Cynhyrchu

Rhagenwau: Fo / Him

Mae Kiah yn Swyddog Cynhyrchu yn Ffilm Cymru ar ystod eang o ffilmiau nodwedd byw, ffilmiau wedi eu hanimeiddio a ffilmiau dogfen, a’r cyfan yn cael eu harwian gan dalent o Gymru. Mae’n cynnig arweiniad golygyddol a strategol i gynhyrchwyr sy’n derbyn arian cynhyrchu gan Ffilm Cymru.

Cyn ymuno â’r tîm,  bu’n gweithio fel Swyddog Datblygu Gweithredol yn y maes cynhyrchu annibynnol – yno, roedd yn gyfrifol am feithrin perthynas â thalent ac am ddarganfod prosiectau i’w cynnwys ar lechen amrywiol ar draws ffilm a theledu. Mae Kiah wedi cynhyrchu sawl prosiect ym myd ffilm, teledu, gemau a rhaglenni trochi, ac mae hefyd wedi gweithio fel darllenydd sgriptiau i sefydliadau fel y BFI, Channel 4 a Creative UK.