Gwenfair Caoimhe Hawkins

Swyddog Datblygu a Chynhyrchu
Rhagenwau: Hi / She / Her
Mae Gwenfair yn gweithio fel swyddog yn y maes datblygu a chynhyrchu gan weithio gyda thalent newydd a phrofiadol, ar brosiectau byr a phrosiectau nodwedd. Mae’n chwarae rhan flaenllaw yn ein rhaglen Sinema Cymru, y brif raglen ar gyfer gwaith nodwedd yn yr iaith Gymraeg, sy’n cael ei rhedeg ar y cŷd â Cymru Greadigol ac S4C.
Mae gan Gwenfair gefndir academaidd a’i gwaith yn cynnwys ymchwilio i fyd llenyddiaeth fodern a chanoloesol trwy lens rhyngdestunolrwydd (intertextuality). Aeth yn ei blaen i weithio ym myd y theatr yn cynhyrchu gwaith newydd a gwaith mwy traddodiadol, gan gynnwys gwaith sgript a gwaith dyfeisiedig. Yn sgil ei phrofiad helaeth gydag amrywiol ffurfiau celfyddydol, ei harbenigedd yw herio a hyrwyddo’r ffordd mae gwneuthurwyr ffilm yn datblygu eu harfer o adrodd stori. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn ffilmiau sydd wedi eu gwneud mewn ieithoedd lleiafrifol, ac mewn cydweithio’n rhyngwladol. Ochr yn ochr â’i gwaith yn Ffilm Cymru, mae Gwenfair hefyd yn gweithio fel golygydd sgriptiau ac ymgynghorydd stori.