Edward Fletcher
Gan gychwyn ym maes rheoli sinema yn David Lean Cinema, Croydon a Cambridge Arts Cinema, aeth Edward yn ei flaen i ddilyn 20 mlynedd o yrfa ym maes dosbarthu ffilm gan redeg cangen ddosbarthu.
Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes, Prosiectau ICA, cyn cydsefydlu cwmni dosbarthu annibynnol Soda Pictures yn 2002. Roedd y prif ffilmiau a ryddhawyd yn cynnwys Toni Erdmann, Paterson a Wadjda. Roedd Soda Pictures yn un o aelodau sylfaenol cynllun Sinematig a lansiwyd gan Ffilm Cymru, a bu’n gwasanaethu fel Cynhyrchydd Gweithredol ar draws cynyrchiadau gan gynnwys Y Llyfrgell, The Lighthouse a Just Jim. Mae teitlau eraill o Gymru y bu’n eu dosbarthu yn cynnwys The Gospel of Us, Summer Scars, Separado! ac American Interior.
Prynwyd Soda gan grŵp cyfryngau o Canada, Thunderbird Entertainment, yn 2014 ac wedi ail-lansio yn 2017 fel Thunderbird Releasing, mae’r ffilmiau a ddosbarthwyd y llynedd yn cynnwys enillydd Palme D’oR Shoplifters, The Kindergarten Teacher sydd â Maggie Gyllenhaal yn serennu ynddi, a High Life gan Claire Denis. Camodd Edward i lawr fel Cyfarwyddwr Rheoli yn haf 2019 ac mae bellach yn ymgynghori’n ehangach yn y diwydiant ffilm ac yn gweithio ar nifer o brosiectau cynhyrchu.
Mae Edward yn gyn aelod o fyrddau Film London, Europa Distribution a Chymdeithas Dosbarthwyr Ffilmiau, yn ogystal â bwrdd ymgynghorol cyfadran y cyfryngau ym Mhrifysgol San Steffan. Mae ganddo MA mewn Ffilm a Theledu.