interior of the torch theatre cinema

Arddangoswyr o Gymru ganolbwyntio eu gweledigaeth busnes

Yn 2024, cyflwynodd Ffilm Cymru raglen strategol o weithdai datblygu busnes a hyfforddiant un-i-un wedi’i deilwra ar gyfer sinemâu a gwyliau ffilm yng Nghymru.

Cynlluniwyd y rhaglen ddatblygu amhrisiadwy hon, dan arweiniad Mustard Studio, er mwyn helpu arddangoswyr o Gymru i ganolbwyntio ar eu cynulleidfaoedd, datblygu eu brandiau ac adeiladu busnesau cynaliadwy. 

Y Daflen Alwadau

Theatr Torch
Sefydlwyd Theatr Torch yn Aberdaugleddau yn 1977, ac mae’n un o ddim ond tair theatr gynhyrchu yng Nghymru sy’n gweithio o’i hadeilad ei hun. Mae’n cynnig dros 2,000 o ddigwyddiadau a gweithgareddau i dros 100,000 o bobl bob blwyddyn. Mae’r ganolfan gelfyddydol yn cynnwys gofod theatr â lle i 300 o bobl, theatr stiwdio a sgrin sinema â lle i 102 o bobl, oriel gelf a chaffi, felly mae’n ganolbwynt lle gall cymunedau o bob cwr o Sir Benfro ddod i fwynhau drama, comedi, cerddoriaeth fyw, dawns, pantomeim, opera, a ffilm wrth gwrs.

Gŵyl Kotatsu 
Lansiwyd Gŵyl Kotatsu, a grëwyd gan Eiko Meredith, yn 2010 yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Chapter yng Nghaerdydd er mwyn dod ag animeiddio a diwylliant Japaneaidd ar ei orau i gynulleidfa newydd. Yn ogystal ag amrywiaeth helaeth o ffilmiau byr a ffilmiau nodwedd animeiddiedig, mae’r ŵyl flynyddol yn cynnwys stondinau a gweithgareddau sy’n arddangos diwylliant Japan ac yn creu awyrgylch hwyliog a chyfeillgar i bobl o bob oed sy’n hoffi anime.  

Mustard Studio
Mae Mustard Studio yn gwmni brandio a marchnata sy’n arbenigo mewn gwasanaethau ar gyfer y diwydiant ffilm a sinema. Roedd un o’r cyd-sylfaenwyr, Mandy Kean, yn rhedeg sinema boblogaidd Electric Cinema Portobello yn Llundain, ac roedd Kate Gerova yn rheoli brand Curzon Cinemas. Gan ddefnyddio eu harbenigedd a’u sgiliau, maent yn cynnig gwasanaethau datblygu busnes a chynaliadwyedd, cynyddu cynulleidfa, a datblygu brand i gwmnïau. 

Sut dechreuodd pethau

Cychwynnodd Gŵyl Kotatsu a Theatr Torch ar raglen datblygu busnes fanwl i’w helpu i gynyddu eu cynulleidfa a chael mwy o refeniw, pob un yn cael ei arwain gan aelod penodedig o dîm Mustard Studio. Gweithiodd Kate a Mandy gyda’r arddangoswyr er mwyn nodi, diffinio a chyfathrebu eu brand a’u diwylliant. 

Roedd y gweithdai brandio yn canolbwyntio ar weledigaeth a llais y busnes, sut maen nhw’n cyfathrebu hynny drwy eu cynnwys, a’r cynulleidfaoedd maen nhw eisiau dweud eu stori wrthyn nhw. Drwy nodi eu diwylliant, aeth y sefydliadau ymlaen i sefydlu eu gweledigaeth, eu cenhadaeth a’u gwerthoedd, ac i archwilio sut i’w diffinio yn fewnol, yn ogystal â’u cyfathrebu yn allanol.

Sut mae pethau’n mynd

Drwy’r rhaglen ddatblygu, mae Torch a Kotatsu wedi: 

  • Creu gweledigaeth busnes strategol
  • Cael gwell dealltwriaeth o sut i gyfathrebu eu brand a’u diwylliant
  • Datblygu dogfen strategaeth â nodau, amcanion a Dangosyddion Perfformiad Allweddol cliriach.

Roedd y nodau strategol hyn yn cynnwys: 

  • Datblygu rhaglen sinema fel rhan annatod o gynnig ehangach
  • Ailwerthuso cynlluniau aelodaeth 
  • Dysgu byw gwerthoedd y sefydliad. 

Rhoddwyd ffactor llwyddiant i bob nod a strategaeth er mwyn eu cyflawni, â’r nod o helpu’r sefydliadau i gynllunio a mesur eu cynnydd. Yn bwysicach na dim efallai, rhoddodd y rhaglen amser i’r arddangoswyr feddwl a darparodd fan creadigol i drafod syniadau.

“Roedd y rhaglen Gweledigaeth Busnes Strategol yn rhagori ar ein disgwyliadau,” meddai Chelsey Gillard o gwmni Torch. “Wrth i’r broses ddatblygu daeth yn bwrpasol iawn ac roedd yn canolbwyntio ar ein hanghenion. Roeddem yn gallu gwneud gwaith dwfn mewn meysydd penodol ag arweiniad arbenigol.”

Roedd Eiko Meredith o Ŵyl Kotatsu yn cytuno. “Roedd yn fwy nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Fe wnaeth Mandy ein helpu i nodi’r meysydd posibl y gallwn eu gwella er mwyn cynyddu ein hincwm. Roedd yn ddefnyddiol cael cymorth i nodi ein gwendidau a’n cryfderau; eu rhestru a meddwl am atebion; dealltwriaeth resymegol a safbwyntiau gwahanol er mwyn gweld sut y gallwn symud yn ein blaenau o hyn ymlaen.”

Y rîl nesaf

Mae’r ddau arddangoswr bellach yn edrych ymlaen at bennod newydd yn hanes eu sefydliad, â chynllun manwl ar gyfer y dyfodol yn mapio eu busnes a’u gweithgaredd datblygu cynulleidfa ar gyfer y tair blynedd nesaf.

“Mae gennym restr o bopeth rydym yn gobeithio ei gyflawni a’i wella tan 2028,” meddai Eiko. “Gallwn ddefnyddio’r rhestr hon fel nod penodol a dal ati â’r hyn rydym yn ei wneud. Mae’n dda cael rhywbeth cadarn, a gwybod lle rydyn ni’n sefyll.”

Yn ôl Chelsey: “Rydym wedi dod oddi yno â strategaeth glir yn cynnwys pwyntiau gweithredu rydym wedi bod yn eu rhannu â’n cydweithwyr. Mae’n rhaglen ddatblygu lawn y gellir ei haddasu wrth i ni fynd yn ein blaenau, a gallai anghenion newid.”

Yn ôl Mandy o Mustard Studio: “Mae gweithio gyda Kotatsu a Torch wedi bod yn broses ysbrydoledig. Mae wedi bod yn wych gweld eu hymroddiad i gynyddu eu cynulleidfaoedd tra’n cadw’n driw i’w hunaniaeth. Roedd y rhaglen hon yn ymwneud â mwy na dim ond datblygu busnes – roedd yn ymwneud â rhoi offer a hyder i arddangoswyr siapio eu dyfodol.”

Mae Prif Weithredwr Ffilm Cymru, Lee Walters, yn ychwanegu: “Roedd Ffilm Cymru yn falch iawn o weithio gyda Mustard Studio ar y rhaglen Gweledigaeth Busnes Strategol. Mae gweld y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn wedi bod yn ysbrydoliaeth, ac rwy’n edrych ymlaen at weld Kotatsu a Torch yn rhoi eu cynlluniau ar waith.”

chelsey gillard
eiko meredith

Gan ddefnyddio cyllid gan y Loteri Genedlaethol wedi’i ddirprwyo gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Ffilm Cymru yn darparu cymorth i alluogi arddangoswyr ffilmiau annibynnol i ddiddanu ac ysbrydoli pobl ar hyd a lled y wlad â mwy o ddewis o ffilmiau. Mae rownd bresennol Cyllid Arddangoswyr Ffilmiau Ffilm Cymru ar agor nawr.