Sinema Cymru: rownd cyllido newydd i hybu ffilmiau Cymraeg
Yn dilyn ei llwyddiant llynedd, mae ail rownd gyllido wedi agor i helpu ffilmiau hir Cymraeg sydd â photensial yn rhyngwladol ac ar y sgrin fawr.
Mae Sinema Cymru, menter gydweithredol rhwng S4C, Ffilm Cymru Wales a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, wedi cyhoeddi ail rownd o gyllid gyda'r nod o ddatblygu sawl ffilm nodwedd Cymraeg y flwyddyn gyda'r bwriad y bydd o leiaf un o'r ffilmiau hynny'n cael ei datblygu ar gyfer cyllid cynhyrchu.
Bydd y gronfa eleni hefyd yn cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau talentog gyda photensial uchel yn gynt yn y broses er mwyn sicrhau dyfodol cyffrous i gynhyrchu ffilmiau nodwedd Cymraeg yng Nghymru.
Yn dilyn llwyddiant y rownd gyllido gyntaf y llynedd - pan ddaeth nifer fawr o geisiadau o ansawdd uchel i law ar gyfer y cynllun - dewiswyd pedwar prosiect ar gyfer eu datblygu:
- Gorllewin Gwyllt – Awdur/Cyfarwyddwr: Carys Lewis, Awdur: Bethan Leyshon
- Pijin - Awdur: Angharad Elen, Cyfarwyddwr: Euros Lyn, Triongl
- Lluest - Awdur: Ed Talfan, Cyfarwyddwr: Gareth Bryn, Severn Screen
- Estron – Awdur: Roger Williams, Cyfarwyddwr: Lee Haven Jones, Joio Cyf
Mae'r ail rownd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau gan wneuthurwyr ffilmiau profiadol o bob cwr o Gymru.
Mae'r Gronfa, sy'n cael ei gweinyddu gan Ffilm Cymru Wales, yn neilltuo hyd at £30,000 ar gyfer prosiectau unigol sydd â'r potensial i fod yn barod i'w cynhyrchu o fewn 12 mis ar ôl dechrau'r cyfnod datblygu, gyda dyfarniadau llai o hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau mewn camau cynharach.
Nod Sinema Cymru yw rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map drwy gyflymu'r broses o greu ffilmiau annibynnol mentrus ac anghonfensiynol, ac a allai gael eu rhyddhau i sinemâu rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn darparu cyllid, a chymorth datblygu gyrfa hefyd i dimau creadigol, gan gynnig cynlluniau datblygu pwrpasol ynghyd â chyllid ar gyfer prosiectau.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant: "Mae cronfa Sinema Cymru yn dangos ein hymdrech i gyflwyno mwy o ffilmiau Cymraeg annibynnol, ac rydym yn arbennig o awyddus i hyrwyddo lleisiau sydd wedi'u tangynrychioli ac i wthio ffiniau'r hyn a ddisgwylir gan ffilmiau Cymraeg.
"Mae llwyddiant y pedwar prosiect a ariannwyd yn ein rownd gyntaf yn dangos cyfoeth y talent a'r creadigedd yng Nghymru. Rydym am i'r gronfa hon ysbrydoli creadigrwydd a helpu i hyrwyddo Cymru a'r Gymraeg i'r byd. Edrychwn ymlaen at weld y syniadau amrywiol a ddaw yn ystod yr ail rownd gyllido hon. Pob lwc!"
Meddai Pennaeth Ffilm a Drama S4C, Gwenllian Gravelle: "Mae'r sinema yn gyfrwng arbennig sy'n caniatáu inni ddiddanu, cysylltu â'n cynulleidfaoedd a dechrau sgyrsiau ystyrlon. Mae hefyd yn goresgyn rhwystrau iaith a daearyddiaeth. Mae Sinema Cymru yn syniad cyffrous iawn gan ei fod yn ein helpu i arddangos Cymru, ein hiaith, ein talent unigryw a'n straeon i gynulleidfaoedd lleol a byd-eang."
Dywedodd Lee Walters, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales: "Rydym yn falch iawn cael bod yn bartner gydag S4C a Cymru Greadigol ar gyfer y gronfa Gymraeg hon. Mae ffilmiau annibynnol yn meithrin talent amrywiol, sy'n hanfodol wrth i lai o ffilmiau cynhenid gael eu cynhyrchu yn y DU. Rydym yn falch o'n pedwar tîm a phrosiect a ddaeth trwy'r rownd gyntaf, ac rydyn ni'n disgwyl ymlaen at glywed lleisiau newydd yr ail rownd hon."
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw dydd Llun 16 Mehefin.