Caroline Lane
Mae Caroline wedi dal nifer o swyddi mewn ymestyn allan creadigol a chysylltu a datblygu cynulleidfa yn y sector diwylliannol yng Nghymru am fwy na 15 mlynedd. Ar ôl graddio gyda BA Anrhydedd mewn Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth, bu’n gweithio fel Ymchwilydd Teledu ar raglenni ffeithiol ac adloniant ysgafn gan gynnwys On Show a The Ferocious Mr Fix It. Tra’n astudio am radd Meistr mewn Busnes a’r Gyfraith bu’n rheoli Spill Media, gan ddylunio a darparu hyfforddiant ffilm ymarferol a chynhyrchu ffilmiau ar gyfer ysgolion, y trydydd sector a sefydliadau preifat, yn ogystal a sicrhau cyllid ar gyfer toreth o brosiectau yn gysylltiedig â ffilmiau.
Roedd Caroline yn Rheolwr Prosiect ar gyfer Ffilm yn sinema symudol arloesol a rhaglen adfywio cymuned Afan, Ffilm Cymru. Bu’n gweithio fel Rheolwr Prosiect ar raglenni datblygu’r celfyddydau, gan gynnwys cynhyrchu gwyliau ar draws y celfyddydau, arddangosfeydd a threfnu rhaglenni a marchnata theatr, ffilm a pherfformiadau byw. Mae yn un o Gydlynwyr Prosiect Clwb Ffilm Merched Gŵyl Ffilm WOW (Cymru Un Byd).
Bu Caroline yn gweithio ar y rhaglen Troed yn y Drws fel Cydlynydd Prosiect ar gyfer Un Bore Mercher / Keeping Faith a Dream Horse.