Caroline Lane

caroline lane

Rheolwr Partneriaethau 

Rhagenwau: Hi / She / Her       

Mae Caroline yn gyfrifol am ddatblygu partneriaethau hen a newydd, ac am adnabod cyfleoedd i ddatblygu gwaith hyfforddiant a sgiliau yn Ffilm Cymru Wales.

Mae Caroline hefyd wedi gweithio gyda Ffilm Cymru fel Rheolwr Rhaglen a Chynhyrchydd Ffolio: cynllun datblygu talent ar gyfer Awduron / Cyfarwyddwyr newydd ar y cŷd â BBC Cymru Wales, BBC Arts a Chyngor Celfyddydau Cymru, ac fel Rheolwr Prosiect ar Ffilm yn Afan: Sinema symudol Ffilm Cymru, a’r rhaglen addysg ffilm ac adfywio cymunedol arloesol. Mae Caroline hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd sgiliau a rheolwr prosiect gyda ‘Troed yn y Drws’, ac wedi bod yn dyfeisio a darparu rhaglenni hyfforddi a sgiliau ledled Cymru ers 2019. Yn ogystal â hyn mae wedi cefnogi cynlluniau ar gyfer prentisiaid ar Keeping Faith / Un bore Mercher (BBC/S4C/Vox Productions), a Dream Horse a Galwad gan Euros Lyn (Mad as Birds Films).

Mae wedi gweithio fel Cynhyrchydd / Hwylusydd Creadigol llawrydd, gan arbenigo mewn gwaith sy’n cysylltu ac yn ymgysylltu â chymunedau trwy ffilm, theatr a’r celfyddydau gweledol ar brosiectau i’r National Theatre Wales, Gŵyl Ffilm WOW, BBC Cymru, Volcano Theatre, Prifysgol Abertawe a Winding Snake Productions.

Wedi iddi raddio gydag anrhydedd o’i chwrs BA mewn Ffilm a Theledu, dechreuodd Caroline ei gyrfa fel ymchwilydd teledu ar raglenni ddi-sgript, gyda sawl darlledwr gan gynnwys y BBC ac ITV. Sefydlodd Spill Media, cwmni a gynlluniwyd i gefnogi pobl i adrodd eu straeon mewn dull gweledol, gan gynhyrchu cynnwys a chyflwyno ystod o raglenni digidol cynhwysol ledled Cymru. Mae ganddi radd meistr mewn Busnes a'r Gyfraith ym maes Technoleg ac Arloesedd.