Cronfa Hybu Gyrfa
Mae’r Gronfa Hybu Gyrfa yn darparu cymorth hyblyg i unigolion i'w helpu i gyrraedd y cam nesaf yn eu gyrfa, gan gydnabod bod gyrfa yn y diwydiant ffilm yn galw am fwy na syniad gwych am ffilm yn unig.
Rydyn ni'n gwybod y gall dod o hyd i gyfleoedd gwerthfawr yn y diwydiant ffilm fod yn ddryslyd ynddo'i hun ac yn aml mae yna bris a fyddai’n anymarferol i lawer. Dyna pam y gwnaethon ni greu'r Gronfa Hybu Gyrfa, sy'n darparu hyd at £10,000 o gyllid grant i awduron, cyfarwyddwyr neu gynhyrchwyr sydd wedi'u geni neu sy’n seiliedig yng Nghymru (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel gwneuthurwyr ffilmiau o Gymru).
Rydyn ni’n gwybod y byddai pawb yn elwa o gymorth o'r fath ond gan fod gennym swm cyfyngedig o gyllid, byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan wneuthurwyr ffilmiau newydd neu sy'n dod i'r amlwg, a'r rhai y byddai’r cyllid yn debygol o gael yr effaith fwyaf ar yrfa'r ymgeiswyr ym myd ffilm.
Meini Prawf Cymhwysedd
Gallwch wneud cais am gyllid Hybu Gyrfa os:
- Ydych chi dros 18 oed ac nid ydych chi mewn addysg amser llawn;
- Cawsoch eich geni neu rydych chi'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd;
- Rydych chi ar lwybr i ysgrifennu, cyfarwyddo neu gynhyrchu ffilm nodwedd (gan gynnwys animeiddio a ffilm ddogfen) ar gyfer cynulleidfaoedd sinema. Yn ymarferol mae hyn yn golygu y gallech chi fod wedi gwneud rhywfaint o waith ar gyfer y sgrin neu mewn ffurf gysylltiedig ar gelfyddyd a bod gennych rai syniadau am ffilm nodwedd mewn golwg, neu efallai eich bod ar gam datblygedig o ddatblygu ffilm nodwedd. Mae’n rhaid bod gennych chi uchelgais i greu ffilm nodwedd sinematig ond ni ddylech fod wedi arwain ar ffilm nodwedd (boed yn ffilm gweithredu byw, wedi'i hanimeiddio neu'n ffilm ddogfen) sydd wedi’i dosbarthu’n fasnachol yn y DU.
Rydyn ni’n arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau sydd o fudd i unigolion sy'n uniaethu fel rhywun sydd: o hil neu ethnigrwydd heb gynrychiolaeth ddigonol; yn F/fyddar, yn anabl neu'n niwroamrywiol; neu o gefndir dan anfantais economaidd-gymdeithasol.
Yr hyn y gallwn ei ariannu
Mae tair elfen o gymorth y gallwn eu cynnig: grantiau teithio, grantiau cyfle a chronfeydd arddangos. Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth.
Ar draws y tair elfen, rydyn ni’n annog ymgeiswyr i ofyn am gymorth hefyd tuag at unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd a'u perthynas â nodwedd warchodedig (er enghraifft Anabledd), â’u statws economaidd-gymdeithasol neu â bod yn rhiant neu'n ofalwr (gweler Costau Mynediad a Chynhwysiant).
- Grantiau Teithio: Gallwn gynnig grantiau teithio i hyd at bedwar unigolyn er mwyn iddyn nhw allu mynd i gyfarfodydd cyffredinol yng Nghaerdydd, Llundain neu hybiau eraill y cyfryngau yn y DU a fyddai o fudd i'w gyrfa dros gyfnod o chwe mis.
- Grantiau Cyfle: Gallwn gynnig cymorth i gymryd rhan mewn digwyddiadau a chyfleoedd hyfforddi sy’n cael eu cydnabod gan y diwydiant.
- Cronfeydd Arddangos: Gallwn ni gynorthwyo â chostau datblygu eich rîl arddangos neu wefan broffesiynol.
Am faint alla i wneud cais?
Hyd at £10,000 (Rydyn ni’n disgwyl i'r rhan fwyaf o'r dyfarniadau fod yn llawer is na hyn ac yn yr ystod o £500 i £3000.)
Beth yw'r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau?
- 28ain Tachwedd 2025, hanner dydd
- 27ain Chwefror 2026, hanner dydd
Canllawiau a Gwybodaeth Bellach
Darllenwch y Canllawiau isod cyn dechrau ar eich cais.
Sut i Wneud Cais
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais isod a’i hanfon drwy e-bost i network@ffilmcymruwales.com ynghyd â:
- CV
- Dolen i o leiaf un darn blaenorol o waith gan y prif ymgeisydd
Mae gan rai o'r cwestiynau ar y ffurflen gais opsiynau i gyflwyno atebion naill ai ar ffurf ysgrifenedig, fideo neu nodyn llais.
Fel arall, os yw’n well gennych chi, fe allwch chi ymateb i’r cwestiynau yn y ffurflen gais drwy alwad fideo neu alwad ffôn fyw. Dylai hyn gael ei drefnu gyda’n tîm ymlaen llaw cyn y dyddiad cau.
Gofynion Mynediad
Mae cymorth ac addasiadau pellach ar gael i unigolion sydd yn F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl, yn niwroamrywiol neu ag amhariad ar eu golwg. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion yn gyfrinachol:
network@ffilmcymruwales.com
02922 676711 (os nad oes ateb, gadewch neges llais yn egluro eich bod yn ymholi ynghylch gofynion mynediad ar gyfer cronfa Hybu Gyrfa a byddwn yn anelu at gysylltu â chi o fewn pum niwrnod gwaith.)
