Ffilm Cymru a Chymru Greadigol Cronfa Cynhyrchu Ffilmiau Nodwedd Annibynnol 2022 Cwestiynau Cyffredin
O’r 29ain Gorffennaf 2022, bydd cyllid cynhyrchu Cymru Greadigol ar gyfer ffilmiau yn cael ei ddarparu drwy Ffilm Cymru Wales. Caiff hyn ei wneud drwy gydweithrediad newydd ar ffurf cronfa flynyddol o £1m ar gyfer ffilmiau nodwedd annibynnol gyda thalent o Gymru yn ganolog iddynt, p’un a ydynt wedi’u geni yma neu’n seiliedig yma. Trefniant am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd ydyw.
Bydd y trefniant unigryw hwn yn creu model ariannu symlach a mwy buddiol i gynhyrchwyr, lle mae un broses ymgeisio yn rhoi mynediad i arian Llywodraeth Cymru ac arian y Loteri Genedlaethol a ddirprwywyd i Gyngor Celfyddydau Cymru, a hynny wedi’i reoli gan Ffilm Cymru Wales.
Mae Cymru Greadigol wedi bod yn buddsoddi’n uniongyrchol mewn cynyrchiadau ers ei sefydlu ym mis Ionawr 2020. Maent wedi buddsoddi mewn 18 o gynyrchiadau a sbarduno gwariant o tua £131m yn yr economi leol. Mae Cymru Greadigol hefyd yn cynnig cyllid ar gyfer gemau, elfennau rhyngweithiol, a rhaglenni teledu wedi’i sgriptio a heb ei sgriptio.
Profiad Helaeth
Fel asiantaeth ddatblygu’r sector ffilmiau yng Nghymru, bu Ffilm Cymru yn gweithio’n uniongyrchol gydag awduron, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a thalent a chwmnïau cysylltiedig am dros 16 mlynedd. Maent wedi cynorthwyo dros 80 o ffilmiau nodwedd gweithredu byw, animeiddiedig a dogfen hyd at eu cynhyrchu, gan gynnwys sawl un a ariannwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae Ffilm Cymru bob amser wedi blaenoriaethu prosiectau sydd â thalent o Gymru – awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr – yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r ffilmiau’n cynnwys Gwledd / The Feast gan Lee Haven Jones, Censor gan Prano Bailey-Bond, Save the Cinema gan Sara Sugarman, I Am Not a Witch gan Rungano Nyoni, ffilm ddogfen Hijra sydd ar y gweill gan Ila Mehrotra a’r ffilm nodwedd animeiddiedig Kensuke’s Kingdom sydd ar y gweill.
Cydweithio
Bu Cymru Greadigol a Ffilm Cymru yn cydweithio o’r cychwyn cyntaf, gan gynnwys cydariannu ffilmiau nodwedd fel Dream Horse gan Euros Lyn, Six Minutes to Midnight gan Andy Goddard a The Almond and the Seahorse sydd ar y gweill gan Mad as Birds Films, sydd â Rebel Wilson (Pitch Perfect, Bridesmaids) yn serennu ynddi ac sy’n cael ei chydgyfarwyddo gan Celyn Jones.
Llif o dalent
Mae Ffilm Cymru yn cefnogi talent sy’n dod i’r amlwg o gam cynnar drwy gyllid ar gyfer ffilmiau byr, hyfforddiant wedi’i deilwra a rhwydweithio rhwng cymheiriaid gyda chyllid gan y BFI a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae ganddynt lechen o ryw 30 o brosiectau sydd ar y gweill ar gyfer eu cynhyrchu. Nid oes yn rhaid i brosiectau sy’n gwneud cais am gyllid cynhyrchu fod wedi derbyn cyllid datblygu blaenorol gan Ffilm Cymru.
Talent o Gymru
Bydd y trefniant ariannu newydd rhwng Cymru Greadigol a Ffilm Cymru yn canolbwyntio ar ffilmiau nodwedd sy’n cael eu harwain gan awduron, cyfarwyddwyr a/neu gynhyrchwyr sy’n enedigol o Gymru neu sy’n seiliedig yma.
Manteision Economaidd
Bydd o leiaf £12miliwn yn cael ei gynhyrchu mewn gwariant uniongyrchol yng Nghymru ar draws dwy flynedd o gyllid, ac mae’n ofynnol i o leiaf £6 gael ei wario yn yr economi leol am bob £1 sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn hybu’r gymuned o weithwyr creadigol, cast, criw, gwasanaethau a chyfleusterau o safon fyd-eang sydd yng Nghymru.
Manteision Diwylliannol
Bydd y cyllid hwn yn rhoi hwb go iawn i’r ffilmiau hynny o Gymru nad ydynt bob amser yn gallu denu mwy o gyllid masnachol, gan dalent sy’n aml ar gam cynharach yn eu gyrfaoedd. Mae cefnogaeth i ffilmiau annibynnol yn rhan hanfodol o ecosystem byd ffilmiau; mae’r ffilmiau hyn yn aml yn herio confensiynau’r diwydiant ffilmiau prif ffrwd, maent yn cymryd risgiau ac yn gwthio ffurf gelfyddydol ffilmiau. Maent yn lansio gyrfaoedd ac yn fwy tebygol o gynrychioli profiadau bywyd go iawn y mae ffilmiau nodwedd yn hanesyddol wedi’u hanwybyddu.
Twf y sector a hyfforddiant
Bydd gofyn i bob ffilm a gefnogir gynnig cyfleoedd i hyfforddeion o Gymru mewn rolau o flaenoriaeth. Mae yna dwf cryf yn y sector ac mae galw ar draws pob adran. Amcan Ffilm Cymru a Chymru Greadigol fydd hwyluso ystod o gyfleoedd i hyfforddeion a chyfleoedd cysgodi ar draws nifer o ddisgyblaethau a lefelau gan gynnwys prentisiaethau. Bydd Ffilm Cymru’n cefnogi cynhyrchwyr sy’n cyflwyno hyfforddeion o ddarparwyr hyfforddiant eraill yng Nghymru ac o’i raglenni hyfforddiant ei hun gan gynnwys Troed yn y Drws, a’r cynhyrchydd fydd yn gyfrifol am yr penodiadau terfynol.
Meini prawf ariannu
Bydd y gronfa newydd yn ddetholus, ac yn defnyddio meini prawf asesu tryloyw sy’n edrych ar rinweddau creadigol y prosiect, y manteision i dalent o Gymru, ei hyfywedd, a’i allu i hybu’r sector ffilmiau i’r dyfodol, boed mewn perthynas ag amrywiaeth a chynhwysiant, cynaliadwyedd amgylcheddol neu ddatblygu talent.
Manteision i gynhyrchwyr
Mae Ffilm Cymru wedi cyfuno arian y Loteri Genedlaethol a ddirprwywyd iddynt gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chronfa cynhyrchu annibynnol Cymru Greadigol i greu un gronfa ar gyfer cynhyrchu ffilmiau. Mae hyn yn golygu y gall cynhyrchwyr bellach gael mynediad i’r ddwy gronfa drwy un cais i Ffilm Cymru, gan gynnig cyfuniad o ecwiti (arian Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru) a buddsoddiad grant (cyllid Cymru Greadigol). Mae modd gwneud cais am fwyafswm o £600,000 fesul cynhyrchiad, yn amodol ar wariant yng Nghymru a buddion o ran datblygu’r sector. Bydd yr holl gyllid yn cael ei gyflwyno ar sail llif arian drwy gydol y cynhyrchiad. Bydd cyllid Cymru Greadigol yn parhau i fod yn anad-daladwy, ond bydd angen ad-dalu unrhyw ddiffyg mewn gwariant yng Nghymru.
Creu ffilmiau yn y dyfodol
Bydd Ffilm Cymru yn parhau i gefnogi cynhyrchwyr annibynnol drwy ddarparu’r cyngor a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i fod yn rhan o sector ffilmiau cynaliadwy yng Nghymru. Bydd yn cefnogi cynhyrchwyr ar sail pedwar conglfaen: cynaliadwyedd, gan gynnwys rheoli effaith amgylcheddol cynyrchiadau, sut i weithio’n fwy cynhwysol, arloesi o ran model busnes, ac adeiladu’r gallu i dyfu drwy hyfforddi criw newydd a darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol.
Codi pontydd byd-eang
Mae chwarter y ffilmiau a ariannwyd gan Ffilm Cymru wedi bod yn gyd-gynyrchiadau rhyngwladol, gan godi pontydd diwylliannol ac economaidd â gwledydd ledled y byd. Mae’r ffilmiau a gefnogwyd wedi’u gwerthu i dros 40 o diriogaethau, wedi’u dangos am y tro cyntaf mewn gwyliau rhyngwladol pwysig fel Cannes, Sundance a Toronto, ac wedi cyflwyno talent o Gymru i’r byd.
Cwestiynau Cyffredin
Pam nad yw holl gyllid cynhyrchu ffilmiau Llywodraeth Cymru yn cael ei ddatganoli i Ffilm Cymru Wales?
Yn seiliedig ar fuddsoddiadau hanesyddol mewn ffilmiau gan Gymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales, credwn y bydd y rhan fwyaf o’r ffilmiau lle mai’r bwriad yw eu rhyddhau mewn theatrau yn cyd-fynd â chylch gwaith y gronfa hon. Bydd Cymru Greadigol yn parhau i reoli buddsoddiadau i gynyrchiadau lle mai’r bwriad yw eu darlledu ar y teledu a/neu drwy ffrydwyr yn unig, yn ogystal â phrif ffilmiau nodwedd sydd ddim yn cyd-fynd â chylch gwaith buddsoddiadau Ffilm Cymru, er enghraifft rhai sydd heb lawer neu ddim talent o Gymru yn eu harwain neu sy’n gofyn am fwy na £600,000 o gyllid o Gymru.
Cynllun peilot yw’r cydweithrediad hwn, a chaiff ei adolygu ar bwyntiau allweddol yn ystod oes y cytundeb i sicrhau ei fod yn ateb y diben i ddiwallu anghenion y sector yng Nghymru.
Pa oruchwyliaeth fydd gan Lywodraeth Cymru dros benderfyniadau ariannu?
Bydd cynrychiolydd o Gymru Creadigol ar banel Ffilm Cymru Wales sy’n trafod ac yn penderfynu ar geisiadau i’r gronfa hon a bydd Ffilm Cymru yn adrodd yn rheolaidd i Gymru Greadigol drwy gydol gweithrediad y gronfa.
Sut y rhoddir cyfrif am y penderfyniadau ariannu a’r dyfarniadau a sut y byddant yn cael eu cyhoeddi?
Bydd y penderfyniadau ariannu yn cael eu cyhoeddi ar wefan Ffilm Cymru Wales ac yn ei Adroddiadau Blynyddol.
A fydd y cyllid yn cefnogi ffilmiau nodwedd animeiddiedig a dogfen?
Bydd. Fel yn achos cronfeydd Datblygu a Chynhyrchu blaenorol Loteri Genedlaethol Ffilm Cymru Wales, bydd y gronfa hon ar gael i gefnogi ffilmiau nodwedd gweithredu byw, animeiddiedig a dogfen lle mai’r bwriad yw i’r ffilmiau hynny gael eu rhyddhau mewn sinemâu.
A fydd y cyllid yn cefnogi ffilmiau nodwedd yn y Gymraeg?
Bydd. Fel yn achos cronfeydd Datblygu a Chynhyrchu blaenorol Loteri Genedlaethol Ffilm Cymru Wales, bydd y gronfa hon ar gael i gefnogi ffilmiau nodwedd mewn unrhyw iaith, gan gynnwys y Gymraeg, lle mai’r bwriad yw i’r ffilmiau hynny gael eu rhyddhau mewn sinemâu. Mae Ffilm Cymru yn croesawu ffilmiau sy’n cael eu cydariannu ag S4C ac arianwyr eraill.
Sut y bydd y gronfa hon yn gweithio gyda chronfa newydd Cymru Greadigol / S4C ar gyfer ffilmiau Cymraeg?
Mae’r trefniadau ar gyfer cefnogi Ffilmiau Cymraeg fel a amlinellir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru Greadigol ac S4C yn dal i gael eu datblygu a bydd rhagor o fanylion ar gael yn nes ymlaen eleni.