Arddangosfa Gwyrddio'r Sgrîn
Ymunwch â Ffilm Cymru Wales, Media Cymru a PDR yn Chapter Arts Centre wrth i ni ddathlu prosiectau sy'n datblygu syniadau newydd ar gyfer gwyrddio'r sector sgrîn.
Wedi'i lywio gan Gynllun Trawsnewid Bargen Newydd Sgrîn BAFTA Albert ar gyfer Cymru, mae Cronfa Ddatblygu Gwyrddio'r Sgrîn Ffilm Cymru Wales a Media Cymru wedi ei chynllunio a’i chyflwyno i ddatblygu ffyrdd arloesol i wneud sector ffilm a theledu Cymru yn fwy amgylcheddol gynaliadwy.
Mae’r prosiectau Ymchwil a Datblygu arloesol yma wedi derbyn cyllid, a byddant yn cael eu harwain gan gwmnïau cynhyrchu, stiwdios a chyfleusterau lleol er mwyn datblygu sector sgrîn fwy gwyrdd i Gymru. Bydd y canlyniadau a’r canfyddiadau wedyn yn cael eu dangos a’u rhannu. Gan gwmpasu dŵr, pŵer, trafnidiaeth, economi gylchol a chynhyrchu rhithwir, bydd y prosiectau'n dangos ffyrdd ymarferol o wneud y gwaith o gynhyrchu'n fwy cynaliadwy, ac o bosibl yn fwy cost-effeithiol.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn cynnwys:
- Cyflwyniadau astudiaethau achos o brosiectau Gwyrddio’r Sgrîn
- Trafodaeth banel gyda sesiwn holi ac ateb dan gadeiryddiaeth PDR
- Rhagolwg arbennig o ffilm fer Gavin Porter, Who Gives a F**k About Polar Bears?
- Y cyfle i gysylltu a rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol ar draws y sectorau sgrîn a chynaliadwyedd.