Matthew Daniel

Prif Swyddog Gweithrediadau
Matthew yw Prif Swyddog Gweithrediadau Ffilm Cymru Wales.
Cyn hynny roedd yn Bennaeth Gweithrediadau i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, swyddogaeth oedd yn golygu ei fod yn cwmpasu holl safleoedd y clwb gan gynnwys Stadiwm Swansea.com, yr Academi a’r Maes Hyfforddi. Roedd y rôl yn cynnwys rheoli Clwb Rygbi'r Gweilch a holl ddigwyddiadau'r stadiwm fel cyngherddau. Cyn hyn mae Matthew wedi gweithio mewn sawl swyddogaeth amrywiol ym myd chwaraeon proffesiynol ac ym maes entrepreneuriaeth.