Lottie Butcher

profile photo of lottie butcher

Rheolwr Lleoliadau’r Diwydiant

Rhagenwau: Hi / She / Her

Mae Lottie yn cefnogi unigolion o bob rhan o Gymru sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y Diwydiannau Creadigol. Mae’n gweithio gyda thîm Cynhyrchu Ffilm Cymru i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a chysgodi ar y ffilmiau rydym yn eu hariannu, yn ogystal â chynnig cyngor i unigolion sy’n dymuno cael mynediad i’r diwydiant.

Mae gan Lottie dros ddeng mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant teledu a ffilm. Wedi ennill gradd Dosbarth 1af o Brifysgol Aberystwyth, bu’n gweithio yn y byd adloniant ysgafn  gyda Princess Productions a Shine TV, cyn gweithio fel aelod o gwmni cyfryngau bychan ym Manceinion, yn cydlynu eu cynyrchiadau fideo. Gan gamu i fyd dramâu wedi’u sgriptio, bu’n gweithio rel rhan o’r tîm cynhyrchu ar sioeau fel The Pembrokeshire Murders, Apostle a Gangs of London. Mae hi hefyd wedi gweithio fel Is-gyfarwyddwr ar gynyrchiadau fel Sex Education, Wolf Hall, Downton Abbey - y ffilm, ar His Dark Materials ac ar Willow i Disney.

Fel cynorthwy-ydd cynhyrchu yn Severn Screen, chwaraeodd Lottie ran yn y broses gyflawn o wneud ffilm, o’r dechrau i’r diwedd, ac mae mewn sefyllfa unigryw i gynghori’r rhai sydd am gael rhagor o wybodaeth am y swyddogaethau amrywiol sydd i’w cael o fewn y diwydiant.