Kiah Simpson

Swyddog Gweithredol Cynhyrchu
Mae Kiah Simpson yn Swyddog Gweithredol Cynhyrchu i Ffilm Cymru ac yn gweithio ar draws y gronfa gynhyrchu i gefnogi ffilmiau gweithredu byw, ffilmiau dogfen a ffilmiau nodwedd wedi’u hanimeiddio.
Cyn hynny, bu’n gweithio fel Swyddog Gweithredol Datblygu i’r cwmni cynhyrchu Buffalo Dragon. Yno roedd yn gyfrifol am feithrin perthynas â thalent a chanfod prosiectau ar gyfer llechen amrywiol ar draws ffilm a theledu. Mae Kiah wedi cynhyrchu prosiectau ar draws meysydd ffilm, digidol, darlledu a chyfryngau newydd a bu hefyd yn ddarllenydd sgriptiau i sefydliadau fel BFI, Channel 4 a Creative UK.