Justine Wooff

justine wooff

Financial Controller

Rhagenwau: Hi / She / Her

Justine yw pennaeth yr Adran Gyllid, ac fel aelod o’r Uwch Dîm Rheoli mae’n gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog Gweithredol i gefnogi datblygiad busnes a phenderfyniadau strategol. Hi sy’n gyfrifol am reolaeth ariannol y sefydliad o ddydd i ddydd, gan gynnwys paratoi’r cyfrifon rheoli, y cyfrifon statudol, y cyllidebau, y gyflogres a’n harchwiliad allanol.

Tra’n gweithio fel Cyfrifydd HETV yn BBC Studios, roedd yn gyfrifol am gyfrifon ariannol a rheolaethol y Cwmnïau Drama, Comedi a Ffeithiol SPV ar gyfer teitlau blaenllaw fel Silent Witness, Good Omens, Prehistoric Planet a llawer mwy.

Ar ôl treulio tua 10 mlynedd dramor gyda Thomas Cook yng Ngwlad Groeg a Chyprus, dychwelodd Justine i'r DU i astudio AAT ac ACCA, a gweithiodd i'r BBC am 17 mlynedd mewn nifer o swyddi. Cychwynnodd gyda’r Cynllun Pensiwn, a thrwy hap a damwain, gweithiodd ar River City, drama arbennig BBC yr Alban, lle taniwyd ei diddordeb mewn ffilm a theledu. Gweithiodd wedyn fel aelod o’r Tîm Cyllid Cynhyrchu ar ddramâu fel Doctor Who, Casualty a Crimson Fields.

Symudodd Justine i Lundain am gyfnod fel Uwch Archwilydd Mewnol y BBC, cyn dod adref i Gymru ac i swydd fel Cyfrifydd HETV.