Georgina Morgan

Swyddog Cynulleidfaoedd
Rhagenwau: Hi / She / Her
Mae Georgina yn asesu, yn adrodd ar, ac yn cefnogi partneriaid a phawb sy’n gwneud cais am arian drwy reoli’r gwaith o weinyddu dyfarniadau Arddangos Film Cymru. Mae hi hefyd yn rheoli cysylltiadau â rhanddeiliaid ar draws gwaith Cynulleidfa ac Arddangos Ffilm Cymru Wales.
Ymunodd Georgina â Ffilm Cymru Wales yn 2022 fel Cynorthwy-ydd Gweithredol ac yna fel Cyd-lynydd Prosiect, gan gefnogi’r Prif Swyddog Gweithredol i roi’r cynlluniau Strategol a Gweithredol ar waith. Cyn ymuno â Ffilm Cymru Wales, mae Georgina wedi cael gyrfa amrywiol, gan gynnwys gweithio fel rhedwr yn NBC Universal ac yn ITV, fel goruchwyliwr sgript ar ffilmiau nodwedd a ffilmiau byr annibynnol, ac fel rheolwr sinema yn yr Odeon a Premiere Cinema, Caerdydd. Yn ogystal â’i gwaith gyda Ffilm Cymru, mae Georgina yn gwneud ffilmiau, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ei ffilm nodwedd gyntaf gyda’i chwmni ei hun, Venus and Mars Films.