montage of six film stills: unicorns, kensuke's kingdom, the almond and the seahorse, timestalker, india's first best trans model agency and chuck chuck baby

Yn dod yn fuan gan Ffilm Cymru

O ffilm antur wedi ei hanimeiddio i’r teulu cyfan, i gomedi-ramantus sy’n chwarae ag amser, yn ogystal â dathliadau LHDTC+, mae ffilmiau Cymraeg i bawb ar y ffordd. Cadwch lygad allan am y ffilmiau yma, a ariennir gan Ffilm Cymru, fydd i’w gweld mewn sinemâu ac ar sgrîn yn ein cartrefi eleni.

The Almond and The Seahorse

Yr Almon (Almond) a’r Morfarch (Seahorse) yw’r llysenwau sy’n cael eu rhoi ar y rhannau o'r ymennydd sy'n cofnodi atgofion newydd ac sy’n dal gafael ar yr hen rai. Ar ôl TBI (anaf trawmatig i'r ymennydd) gall y rhannau hyn newid a datblygu’n lwybrau newydd, all wedyn greu ‘chi’ newydd... ond beth a phwy sy'n cael ei anghofio? Y bobl sy'n ein caru ni fwyaf, fel arfer.

Mae’r ffilm  wedi ei seilio ar y ddrama, The Almond and the Seahorse, ac yn serennu ynddi mae Rebel Wilson, Charlotte Gainsbourg, Trine Dyrholm, Celyn Jones, Meera Syal, Ruth Madeley ac Alice Lowe. Ysgrifennwyd y ffilm gan Celyn Jones a Kaite O’Reilly, gyda Jones a Tom Stern yn cyd-gyfarwyddo am tro cyntaf.

Bydd y ffilm, a ariennir gan Ffilm Cymru, yn cael ei rhyddhau yn sinemâu Prydain o Mai 10fed, gan Picnik Entertainment.

Unicorns

Wedi’i gosod ym myd cyfrinachol, yr isddiwylliant yn Llundain, mae Unicorns yn dilyn hanes perfformiwr cwîar sy’n byw dau fywyd, a thad sengl sy’n gweithio fel mecanic, y mae eu bywydau’n gwrthdaro ar ôl cyfarfod drwy hap a damwain. Mae’r ffilm ramant drawsddiwylliannol hon wedi ei chyfarwyddo gan Sally El Hosaini a James Krishna Floyd, ysgrifennwyd y sgript gan Floyd, ac yn serennu ynddi mae’r artist RnB newydd Jason Patel, ochr yn ochr â Ben Hardy.

Dewiswyd Unicorns ar gyfer Gŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto a Gŵyl Ffilm Llundain BFI yn 2023. Cafodd ei chynhyrchu gan Celine Rattray, Trudie Styler, Philip Herd, Bill Pohlad, Kim Roth a Christa Workman, a’i huwch-gynhyrchu gan Stephen Daldry.

Bydd Unicorns yn cael ei rhyddhau eleni gan Signature Entertainment.

still from unicorns featuring ben hardy and jason patel sitting in a car and laughing at each other

Chuck Chuck Baby

Mae Chuck Chuck Baby wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Janis Pugh, gyda Louise Brealey ac Annabel Scholey yn serennu ynddi. Dyma ffilm am gariad, am golled ac am gerddoriaeth sydd wedi’i lleoli ynghanol y plu sy’n chwyrlïo i’r llawr mewn ffatri ieir.

Wedi'i lleoli yng ngogledd diwydiannol y Gymru sydd ohoni, mae Helen yn treulio ei nosweithiau'n pacio ieir, a'i dyddiau'n gofalu am Gwen sy’n marw, ac sydd fel mam iddi. Ond pan mae Joanne yn dychwelyd adref mae byd Helen yn cymryd tro annisgwyl.

Dangoswyd Chuck Chuck Baby am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin 2023, cyn teithio i Ŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto a Gŵyl Ffilm LGBTQ+ Gwobr Iris Caerdydd yn yr hydref. Yn serennu yn y ffilm mae Sorcha Cusack a Celyn Jones, gydag Anne Beresford, Adam Partridge, Andrew Gillman a Peggy Cafferty yn cynhyrchu, a Lizzie Francke yn gynhyrchydd gweithredol ar gyfer y BFI, Kimberley Warner ar gyfer Ffilm Cymru Wales, a Max Fisher a Mary Fisher ar gyfer MDF .

Bydd Chuck Chuck Baby yn hedfan i sinemâu Prydain eleni drwy Studio Soho.

India’s 1st Best Trans Model Agency 

Mae’r daith emosiynol hon, sydd wedi’i ffilmio dros gyfnod o 7 mlynedd, yn dilyn stori ryfeddol Rudrani Chettri a’i ffrindiau o seremonïau bendithio babanod, ardaloedd ‘golau coch’, a gwyliau Hindŵaidd disglair, tanbiad i fyd hudolus ffotograffwyr, cynllunwyr, pobl gwallt a cholur, goleuadau ac ‘action’! Rydym yn darganfod cymuned drawsryweddol Delhi wrth iddynt fynd ati i greu asiantaeth fodelu trawsrywiol gyntaf India, a chyflwyno digwyddiad ‘catwalk’ eithafol sy'n herio’r norm.

Cafodd y ffilm ddogfen nodwedd hon, gan y cyfarwyddwr Ila Mehrotra a’r cynhyrchydd Ed Dallal, ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm BFI Flare LHDTCRhA+ ym mis Mawrth 2024.

still from india's first best trans model agency featuring a hijra posing in front of a metal gate at night

Kensuke’s Kingdom 

Mae Kingdom Kensuke, sydd wedi’i chyfarwyddo gan Neil Boyle a Kirk Hendry, wedi ei seilio ar nofel hynod lwyddiannus Michael Morpurgo, ac wedi ei haddasu ar gyfer y sgrîn gan Frank Cottrell-Boyce. Ynddi ceir antur epig Michael, bachgen ifanc sy’n glanio ar ynys anghysbell yn dilyn llongddrylliad, ac yn darganfod nad yw yno ar ei ben ei hun pan ddaw ar draws hen filwr gelyniaethus o Japan a enciliodd yno ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r ffilm wedi ei lleisio gan gast enwog o actorion gan gynnwys Sally Hawkins, Cillian Murphy, Raffey Cassidy, Aaron MacGregor a Ken Watanabe.

Dangoswyd Kensuke's Kingdom am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Animeiddio Ryngwladol Annecy yn 2023, a chafodd ei chynhyrchu gan Camilla Deakin a Ruth Fielding ar gyfer Lupus Films, Stephan Roelants o Melusine Productions, cyd-sylfaenydd Working Title, Sarah Radclyffe, Barnaby Spurrier, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Alinio, Adrian Politowski, a’r Is-lywydd Hŷn, Martin Metz, a Jean Labadie ac Anne-Laure Labadie o Le Pacte. Cyd-gynhyrchwyd y ffilm gan y cwmni animeiddio o Gaerdydd, Bumpybox.

Timestalker

Mae Timestalker yn dilyn yr arwres anlwcus, Agnes, drwy amser wrth iddi golli ei chalon dro ar ôl thro i’r dyn anghywir - mae’n marw mewn modd dychrynllyd, yn atgyfodi mewn corff gwahanol ganrif yn ddiweddarach,  ac yn ail-gwrdd â’r dyn unwaith eto gyda’r cylch dieflig yn dechrau eto fyth. Un stori sydd yma sy’n cael ei hadrodd dros sawl cyfnod, ac sy’n cynnwys yr holl gyffro a’r holl lanast sy’n dod yn sgîl bod yn ddigon beiddgar i ddilyn eich calon. Neu efallai eich lwynau…

Gyda’r awdur a’r cyfarwyddwr Alice Lowe yn chwarae’r brif ran mae’r ensemble talentog yn cynnwys Jacob Anderson, Aneurin Barnard, Tanya Reynolds a Nick Frost. Yn ymuno â nhw mae Kate Dickie, Dan Skinner a Mike Wozniak, fu hefyd yn perfformio yn ffilm gyntaf Lowe fel cyfarwyddwr, Prevenge. 

Yn Timestalker, mae Alice yn gweithio unwaith eto gyda chynhyrchydd Prevenge, Vaughan Sivell, a Western Edge Pictures, mewn cyd-gynhyrchiad â’r Popcorn Group. Y ffilm oedd y prosiect cyntaf i gael ei gefnogi gan gronfa cynhyrchu ffilmiau nodwedd Ffilm Cymru Wales a Chymru Creadigol, ac fe’i saethwyd yng Nghaerdydd yn hwyr yn 2022. 

Derbyniodd y ffilm hon ganmoliaeth mawr gan y beirniaid yn dilyn ei dangos am y tro cynaf erioed yn SXSW ym mis Mawrth 2024.

still from timestalker featuring aneurin barnard and alice lowe lowe wearing georgian costumes and standing in a forest. They are holding hands while barnard (left) holds an old pistol.