Jude Lister

jude lister

Mae Jude yn arwain ar ddarparu mentrau talent RHWYDWAITH Cymru Sefydliad Ffilm Prydain. Mae ei phrofiad mewn cefnogi ac hyrwyddo gwneuthurwyr ffilmiau ar ddechrau eu gyrfa’n pontio datblygu, cynhyrchu, hyfforddi ac arddangos. Cyn ymuno â Ffilm Cymru Wales, bu Jude yn rheoli lab ddatblygu iFeatures Creative England ar gyfer ffilmiau nodwedd cynigion cyntaf mewn partneriaeth a Sefydliad Ffilm Prydain a Ffilmiau BBC, yn ogystal a shortFLIX, menter beilot yn cynhyrchu cyfres o ffilmiau byrion gan wahanol ysgrifenwyr / cyfarwyddwyr 18 – 25 oed i’w darlledu ar Sky Arts.  Cyn hynny bu’n gweithio gyda Encounters Short Film & Animation Festival ac mae’n dal yn rhan o’i dîm cyn-ddewis.