Young people at the Wicked Wales Film Festival

Gweithdai Cidwm Cymru

Treuliodd Hijinx ddau ddiwrnod yng Ngŵyl Ffilm Ieuenctid Rhyngwladol Cidwm Cymru, yn gweld actorion Hijinx Academy North and South yn cymryd rhan mewn gweithdai gwneud ffilmiau cynhwysol gyda disgyblion Ysgol Tir Morfa yn cael ei arwain gan Tom Barrance o Learn About Film.

Canlyniadau

  • Rhoddodd pob un o’r cyfranogwyr lawer o angerdd ac ymroddiad i’r prosiect, gyda llawer iawn o waith ac o ddysgu’n cael ei wneud gan bawb oedd yn cymryd rhan gan ganolbwyntio’n rhagorol gydol y broses o wneud ffilm.
  • Roedd cydweithredu gwirioneddol gydol y prosiect wrth wneud y micro-shorts terfynol, gan rannu syniadau creadigol a dysgu oddi wrth ei gilydd yn ogystal ag oddi wrth y tiwtoriaid.
  • Roedd y ffilmiau a grëwyd yn amrywiol, cyffrous ac wedi’u saethu gyda synnwyr gwirioneddol o hwyl. Cawsant eu gweld am y tro cyntaf yng ngŵyl Cidwm Cymru, ble roedd ei cyflawniadau’n cael eu cydnabod gydag ymateb eithriadol o gynnes a gwobr.

Llwyddiannau

Y prif lwyddiant oedd dysgu  sgiliau gwneud ffilmiau i oedolion gydag anabledd a phobl ifanc gydag Anghenion Addysgol Arbennig, na fyddai fel arall wedi cael cyfle i wneud hynny. Mae hynny’n wir yn benodol i’r rhai o ardal Prestatyn. Roedd eu hangerdd wrth weithio a’r cydweithio a ddatblygodd ar unwaith, yn wych. Roedd hynny, ynghyd â’r canlyniadau trawiadol eu dysgu (gwnaed y micro-shorts mewn hanner diwrnod) yn golygu fod y prosiect yn llwyddiant ysgubol ac aeth y rhai oedd yn cymryd rhan oddi yno gyda gwell a chryfach – neu gyfangwbl newydd - dealltwriaeth a sgiliau gwneud ffilmiau.