a black and white photo of five people standing and sitting at a desk watching something on a laptop

Y Labordy

Dan arweiniad S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI Cymru, mae Y Labordy yn rhaglen ddatblygu broffesiynol ar gyfer cynhyrchwyr ffilm, teledu a theatr sy'n dod i'r amlwg ac sydd â'r gallu i weithio yn y Gymraeg.

bfi network wales logo

Mewn rhaglen chwe mis o fentora a dosbarthiadau meistr ar-lein, bydd Y Labordy yn archwilio’r sgiliau sydd eu hangen ar gynhyrchwyr - sgiliau creadigol, sgiliau ym myd busnes ac o ran arweinyddiaeth. Y nod yw rhoi dealltwriaeth i gyfranogwyr o arferion y diwydiant, apêl rhyngwladol a'u gweledigaeth unigryw eu hunain.

Trwy Y Labordy bydd y pedwar cynhyrchydd llwyddiannus yn nodi ble maen nhw yn eu gyrfaoedd ar hyn o bryd, yn darganfod sut maent am symud ymlaen ac esblygu, a dysgu sut y gallant wireddu hyn. Mae'r rhaglen yn cynnwys cefnogaeth bersonol gan fentor sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol, yn ogystal â dosbarthiadau meistr mewn grŵp dan arweiniad siaradwyr gwadd.

Bydd y rhaglen yn cyflwyno hyn gan ddefnyddio dull uchelgeisiol ac amlddisgyblaethol, gyda chynhyrchwyr yn cael eu hannog i archwilio gweithio ar draws ffilm, teledu a theatr, yn ogystal â llwyfannau eraill fel VR, technoleg trochi a gemau.

Pwy all Ymgeisio?

Cynhyrchwyr sy’n dod i’r amlwg sy’n gweithio ym myd ffilm, teledu a / neu theatr, sydd wedi cynhyrchu o leiaf un darn o waith ar lefel broffesiynol, ymylol neu fel myfyriwr coleg, er enghraifft: 

  • ffilm raddio
  • ffilm fer, naill ei wedi ei hariannu’n gyhoeddus neu eich bod wedi ei hariannu eich hun
  • drama ble mae’r cast a’r tîm cyfan wedi derbyn o leiaf isafswm cyflog 
  • rhaglen deledu, cyfres ar y wê neu gynnwys ar-lein sydd wedi ei gynhyrchu i safon broffesiynol

A / NEU

  • bod gennych gredyd fel Is-gyfarwyddwr, Cydlynydd Cynhyrchiad, neu gredyd ar lefel gyfatebol yn yr adran gynhyrchu ar gynhyrchiad ffilm, teledu neu theatr broffesiynol.

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed, heb fod mewn addysg llawn amser ar hyn o bryd, a naill ai wedi'u geni neu’n byw yng Nghymru. Dylent hefyd allu gweithio yn y Gymraeg - nodwch y bydd cefnogaeth ar gael i'r rheini sy'n dymuno gwella eu gallu yn y Gymraeg.

Sut Ydw i’n Ymgeisio?

Darlenwch ein Canllawiau & Cwestiynau Cyffredinol am Y Labordy isod cyn llawrlwytho a chwblhau ffurflen gais.

Gyrrwch eich ffurflen gais wedi ei chwblhau at network@ffilmcymruwales.com erbyn dydd Gwener 3ydd Rhagyfyr 2021 am 3pm.

Rydym yn cynnal digwyddiad lansio Y Labordy ar ddydd Gwener 19eg Tachwedd. Cofrestrwch yma i gael cyfle i glywed gan banel o gynhyrchwyr profiadol sy'n gweithio ym myd ffilm, teledu a theatr, ac i ddarganfod rhagor am raglen Y Labordy.

s4c and acw logos

Os byddech chi'n elwa o gyngor penodol ar gyfer gwneud cais, gallwch hefyd archebu sesiwn 1-i-1 yma. Sylwch mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ac rydym yn rhoi blaenoriaeth i’r rhai nad ydynt wedi cael sgwrs â thîm Ffilm Cymru o'r blaen.

Sylwer os gwelwch yn dda: Ar gyfer ymgeiswyr sydd ag anghenion mynediad, er enghraifft unigolion B / byddar, sydd â nam ar eu clyw, sy’n anabl, yn niwroamrywiol neu sydd â nam ar eu golwg, mae cefnogaeth bellach ar gael. Er enghraifft, gallwn dalu costau cyfieithydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn i chi wneud cais, neu gynnig cymorth ysgrifenedig i ymgeiswyr dyslecsig. Gallwn hefyd dderbyn y ffurflenni cais trwy'r post, neu atebion mewn dulliau amgen fel fideo byr neu ddec sleidiau. Dylid cytuno ar hyn gyda'n tîm cyn cyflwyno’r ffurflen. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion yn gyfrinachol, cyn gwneud cais.

Cyswllt

Gwenfair Hawkins, Swyddog Datblygu
gwenfair@ffilmcymruwales.com

Tracy Spottiswoode, Cyd-lynydd Digwyddiadau & Hyfforddiant RHWYDWAITH BFI Cymru
tracy@ffilmcymruwales.com 

Gallwch hefyd ein ffonio ar 07902 492109.