greening the screen

Cystadleuaeth Cyllid Gwyrddu’r Sgrin

Y dyddiad cau nesaf: 1 November 2023

Mae Cronfa Gwyrddu’r Sgrin yn ariannu’r gwaith o ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau, gan wella cynaliadwyedd amgylcheddol y diwydiant sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae ein rhaglen Cymru Werdd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol a chwmnïau’r sector sgrin yng Nghymru i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Fel rhan o hyn, rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Media Cymru i gyflwyno ein cronfa datblygu Gwyrddu’r Sgrin, sy’n cael ei rheoli gan Innovate UK, sef rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).

Ar sail ymchwil Screen New Deal albert BAFTA a BFI, mae’n rhaid i brosiectau ymchwil a datblygu leihau’r effaith negyddol y mae’r sector sgrin yn ei chael ar yr amgylchedd drwy’r prif feysydd effaith canlynol:

  • ynni a thanwydd
  • cludiant
  • economi gylchol a gwastraff
  • cipio a lledaenu data, arbenigedd, dealltwriaeth dechnegol, cynllunio cynyrchiadau, ac adrodd ar draws y gadwyn gyflenwi

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

  • Busnesau cofrestredig yn y DU, cwmnïau buddiannau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw
  • Rhaid i ymgeiswyr fod ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd neu’n cydweithio ag o leiaf un sefydliad ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd

Anogir cydweithio ar draws y sectorau canlynol:

  • y cyfryngau - cynhyrchu ffilm a theledu - a'r sectorau creadigol ehangach 
  • y byd academaidd
  • technoleg
  • ynni a thanwydd
  • cludiant
  • gwasanaethau economi gylchol a rheoli gwastraff
  • gweithgynhyrchu a deunyddiau

Am beth alla i wneud cais?

Gall ymgeiswyr wneud cais am grantiau cyllido gwerth rhwng £75,000 a £250,000. Mae cyfanswm o £600,000 o gyllid ar gael.

Rhaid i brosiectau wneud y canlynol:

  • Canolbwyntio ar y sector cyfryngau
  • Dangos manteision amgylcheddol sylweddol i ddiwydiant y cyfryngau, yn enwedig lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Cynnal o leiaf 75% o waith y prosiect ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae’r meini prawf cymhwysedd llawn ar gyfer ymgeiswyr a phrosiectau ar gael yma.

Sut ydw i’n gwneud cais?

  1. Darllenwch y canllawiau ar gyfer gwneud cais am gystadleuaeth ar y Gwasanaeth Cyllid Arloesedd.
  2. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, sydd wedi’i rhannu’n bedair adran:
    1. Manylion y prosiect.
    2. Cwestiynau am y cais.
    3. Cyllid.
    4. Hygyrchedd a chynhwysiant.

Cysylltu

  • Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch cymhwysedd a sut i wneud cais, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyllid Arloesedd. 
  • Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch cwmpas eich syniadau, cysylltwch â greeningthescreen@ffilmcymruwales.com   
  • Gall darpar ymgeiswyr drefnu slot un-i-un am 20 munud yn Tramshed Tech ddydd Mawrth 26 neu ddydd Iau 28 Medi. 

Media Cymru 

Mae Media Cymru yn fenter gydweithredol sydd â 23 o bartneriaid, ac mae’n anelu i droi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau gan ganolbwyntio ar dwf economaidd gwyrdd a theg. Eu gweledigaeth yw helpu Cymru i fod yn arweinydd ym maes cynhyrchu cyfryngau amgylcheddol cynaliadwy (gwyrdd).

Mae Media Cymru (2022 - 2026) yn cael ei ariannu gan Gronfa flaenllaw Strength in Places gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Cymru Greadigol, a phartneriaid diwydiant a phrifysgolion.

Cronfa Strength in Places

Dan arweiniad Ymchwil ac Arloesedd y DU, mae Cronfa Strength in Places yn gynllun ariannu cystadleuol sy'n defnyddio dull seiliedig ar leoedd o ariannu ymchwil ac arloesedd, er mwyn cefnogi twf economaidd lleol sylweddol.

media cymru logo