CISP Multimedia logo featuring a blue and yellow rocket on a black background

Ein Stori Ni

Mae CISP Amlgyfrwng,  gyda chefnogaeth Ffilm Cymru Wales, wedi bod yn cyd-weithio ag ysgolion ledled De Cymru i gynnig cyfleoedd i ddisgyblion ysgolion cynradd wneud ffilmiau.

Bu i’r prosiect gynnig profiad ymarferol iddynt ar greu byrddau stori, ffilmio a golygu eu ffilmiau eu hunain am bynciau o’u dewis nhw, a’r cyfan yn dod i ben gyda’u ffilmiau’n cael eu dangos am y tro cyntaf ar sgrîn fawr yn Y Ffwrnes, Llanelli.