Jessica Cobham-Dineen

portrait photo of jessica cobham-dineen

Swyddog Gweithredol Datblygu

Mae Jessica yn gweithio ar y ffilmiau nodwedd Saesneg sydd mewn datblygiad, ffilmiau gan dalent newydd a phrofiadol.

Daw Jessica atom o ie ie productions  lle bu'n gweithio fel Swyddog Datblygu, gan ddatblygu rhaglenni nodwedd a chyfresi wedi'u sgriptio. Cyn hynny bu’n Bennaeth Datblygu yn Maia Pictures, yn goruchwylio llechen y cwmni, a’n hybu cysylltiadau rhwng talentau, er mwyn sicrhau croestoriad da o ran straeon a lleisiau. Mae hefyd wedi gweithio ar 4Screenwriting, 4Stories, wedi bod yn feirniad gyda Grantiau Academi Ffilm y BFI a Chapter ar gyfer Ffilmiau Byr-Meicro (Micro-Shorts), ac yn fentor ar Labordy Awduron y DU & Iwerddon.

Dechreuodd Jessica ei gyrfa yn Film4 yn gweithio ar nifer o brosiectau, gan gynnwys A Field In England; dychwelodd yn ddiweddarach i Channel 4 fel rhan o’r tîm comisiynu Drama. Y tu hwnt i faes datblygu, mae Jessica wedi ymgymryd ag amrywiaeth o swyddogaethau ar gynyrchiadau teledu a ffilm, fel Suffragette a Safe House; bu’n rheolwr cynhyrchu ac yn oruchwyliwr sgriptiau ar gyfer yr elfen ffilm (RHAN 3) o ddrama debbie tucker green, ear for eye, a lwyfannwyd yn y Royal Court. Cafodd yr addasiad ffilm o’r ddrama ei ddangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Llundain, ac ar y BBC, yn 2021.

Cynhyrchodd Jessica ffilm fer, Bog, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Golden Heart Trellick yng Ngŵyl Ffilm Portobello 2018. Cafodd y ffilm ei dangos yn rhyngwladol, gan gynnwys yng Ngŵyl Ffilm Merched Byd-eang 2019 yn yr Unol Daleithiau.