Georgina Morgan

portrait photo of georgina morgan

Cynorthwy-ydd Gweithredol

Mae Georgina’n cefnogi’r Prif Swyddog Gweithredol wrth gyflawni cynlluniau Strategol a Gweithredol Ffilm Cymru, ac yn arwain ar brosiectau fel CineRegio Cardiff/Caerdydd. Mae hefyd yn cynnig cefnogaeth weinyddol i bob adran.

Astudiodd Georgina Ffilm a Saeseng ym Mhrifysgol Southampton cyn dechrau ei gyrfa yn gweithio i NBC Universal ac ITV. Ers hynny mae wedi hyfforddi fel Arolygydd Sgript, wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwydol ar nifer o ffilmiau a fideos cerddorol, ac wedi rheoli sinema.

Yn ogystal â gweithio i Ffilm Cymru, mae Georgina yn awdur/gynhyrchydd, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ei ffilm nodwedd gyntaf gyda’i chwmni ffilm, Venus and Mars Films.