a collage of five portrait photos

Gwneuthurwyr ffilmiau dogfen o Gymru yn mynd i'r IDFA fel rhan o ddirprwyaeth Ffilm Cymru Wales

Bydd pump o wneuthurwyr ffilm o Gymru, sy'n gweithio ym maes dogfennau nodwedd, yn mynychu Gŵyl Ffilmiau Dogfen Ryngwladol Amsterdam ym mis Tachwedd, gyda chefnogaeth gan Ffilm Cymru Wales.

Yn dilyn galwad agored a phroses ymgeisio, bydd y cynrychiolwyr llwyddiannus yn cael mynychu pob dangosiad, sgwrs a thrafodaethau ‘bwrdd crwn’ yr ŵyl, gyda chinio arbennig wedi iddynt gyrraedd er mwyn eu cyflwyno. Bydd y gwneuthurwyr ffilm hefyd yn elwa o sesiwn fentora un-i-un gydag arbenigwr yn y diwydiant er mwyn eu cynorthwyo i wneud y mwyaf o’r cyfle hwn i ddatblygu eu prosiectau a’u gyrfaoedd ymhellach.

Dywed Antigoni Papantoni, Uwch Gynhyrchydd Sgyrsiau, “Mae'n anrhydedd i’r IDFA groesawu dirprwyaeth swyddogol o Gymru am y tro cyntaf. Rydym yn hyderus y bydd cyfraniad y cynrychiolwyr o Gymru yn un cyfoethog ac ysbrydoledig, ac edrychwn ymlaen at gryfhau'r cydweithrediad hwn yn ystod y blynyddoedd nesaf.”

Dirprwyaeth IDFA Ffilm Cymru Wales yw:

gilly booth

Gilly Booth

Gilly Booth - artist sy'n gweithio gyda’r ddelwedd symudol/sain, a chyd-gyfarwyddwr Hijack Film Production. Mae ei hymarfer celf yn ail-ddehongli, archifo ac ymchwilio i’r modd y gall swyddogaeth goll pensaernïaeth barhau yn y cof diwylliannol. Mae hi'n defnyddio technegau dogfennol i gofnodi cyfarfyddiadau byw rhwng realiti a ffuglen, ac yn eu trosi ar draws lleoliadau daearyddol a ffiniau ieithyddol.

Mae Eduardo Paolozzi, Archaeology of a Future, yn brosiect ddogfen gyfredol a ddatblygwyd gyda chefnogaeth Ffilm Cymru Wales. Mae ffilmiau/gosodiadau dethol wedi cael eu harddangos mewn gwyliau ffilm a chanolfannau cefl rhyngwladol, gan gynnwys yr ICA Llundain, Canolfan Pompidou / Paris, Amgueddfa Gelf Fodern / Tokyo, MOMA / Efrog Newydd, Amgueddfa'r Anghofiedig / Biennale Celf Pensaernïaeth Fenis a Zurich / Yr Eidal

simon clode

Simon Clode

Mae Simon yn wneuthurwr ffilm ac artist fideo o Gymru sydd wedi ymroi i adrodd straeon dogfennol sy'n mynd i'r afael â materion tyngedfennol sydd o bwys byd-eang. Mae wedi derbyn gwobr ariannol gan RHWYDAITH Y BFI / Gorwelion Ffilm Cymru Wales, yn ogsytal â gwobr ariannol Datblygu Ffilmiau Nodwedd gan Ffilm Cymru Wales ar gyfer ei ffilm ddogfen nodwedd gyntaf The Hunter and the Dragon.

Mae ei waith wedi cael ei arddangos mewn gwyliau sydd wedi eu cymhwyso ar gyfer BAFTA; mae wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Ffilmiau Byr Prydain, ac mae ei waith wedi cael ei ddarlledu ar y BBC. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Simon wedi cyflwyno ei ffilmiau artistig mewn digwyddiadau allweddol fel y Qalandiya International ym Mhalesteina, ac mewn orielau celf ac amgueddfeydd ledled y DU, gan archwilio themâu sy’n ymwneud ag argyfwng hinsawdd a hawliau dynol.

vicky morton

Vicky Morton

Mae Vicky Morton yn wneuthurwr ffilmiau cwîar o Gymru sy’n canolbwyntio ar adrodd straeon dogfennol. Mae hi wedi archwilio themâu sy’n amrywio o fywydau ffeministaidd a cwîar, i’r straeon dynol o fewn y byd chwaraeon.

Mae’n gweithio mewn dull cydweithredol a myfyriol, sy’n aml wedi'i lunio yn sgil ei diddordeb mewn lleisiau a straeon sy'n cael eu hanwybyddu. Gyda'i chwmni cynhyrchu, Red Mountain Films, mae Vicky wrthi'n datblygu ffilmiau a chyfresi newydd, gan barhau i archwilio gwahanol ffyrdd o weithio gyda ffurf y ddogfen.

gavin porter

Gavin Porter

Mae Gavin Porter yn gwneud ffilmiau, dogfennau a chynyrchiadau theatr. Mae’n hannu o Dre-Biwt, Caerdydd. Mae'n Athro Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru, yn Gymrawd Clore ac  wedi ennill gwobr BAFTA Cymru. Yn fwyaf diweddar, bu i Gavin greu, ysgrifennu a chyfarwyddo Circle of Fifths, darn o theatr sy'n archwilio'r cysylltiadau sy’n bodoli rhwng galar, colled, a cherddoriaeth tra’n dathlu traddodiad angladdau Tre-biwt. Mae Circle of Fifths wedi teithio ledled Cymru ac wedi mynd i Lundain.

Mae Gavin wedi cyfarwyddo, cynhyrchu a chyfrannu at raglenni dogfen ar gyfer y teledu, gan gynnwys Glenn Webbe - Rugby Rebel, Steve Robinson - Cinderella Man, Black Welsh Music, ac A Killing in Tiger Bay.

cristian saavedra

Cristián Saavedra

Mae Cristián Saavedra yn wneuthurwr ffilmiau sy’n dod o Chile a sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, lle mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd i BBC Cymru, Screen Alliance Wales, ac ar brosiectau eraill. Yn sgil ei gefndir eclectig mewn newyddiaduraeth, cerddoriaeth a’r byd teledu, mae'n adrodd straeon pwerus sy'n cyfuno diwylliant pop â negeseuon cynhwysol, gan dynnu ar ei brofiadau fel gwneuthurwr ffilmiau sydd â nam ar ei olwg.

Mae ei waith yn archwilio sut y gall artistiaid ag anableddau sbarduno mudiad grymus o onestrwydd a hunan-fynegiant. Gyda chefnogaeth gan Ffilm Cymru, mae wrthi'n datblygu ei ffilm nodwedd gyntaf, sy'n ymchwilio i fywyd hynod ddiddorol y seren bop eiconig o'r 90au, Scatman John.