Cyfle Swydd: Swyddog Gweithredol Datblygu
Mae cyfle cyffrous i ddatblygu ystod eang o ffilmiau nodwedd byw, ffilmiau wedi eu hanimeiddio a ffilmiau dogfen dan arweiniad talent o Gymru.
Mae llwyddiannau’r gorffennol yn cynnwys Censor gan Prano Bailey Bond, Gwledd gan Lee Haven Jones, Chuck Chuck Baby gan Janis Pugh, Donna gan Jay Bedwani, I Am Not a Witch gan Rungano Nyoni, a Kensuke's Kingdom, ffilm nodwedd wedi ei hanimeiddio.
Teitl: Swyddog Gweithredol Datblygu
Cyfnod: Llawn amser cyfnod penodol tan 05/07/2025 (potensial i rannu swydd)
Cyflog: £29,250 - £32,500
Dyddiad cau: 22 Awst 2024, 5pm.
Cyfweliadau: Ar yr wythnos sy’n cychwyn 2 Medi, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Darllen ac asesu ceisiadau am arian datblygu, yn unol â’n canllawiau ariannu a’n meysydd blaenoriaeth, gan gymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau.
- Darparu arweiniad golygyddol a strategol i'r rhai sy'n derbyn arian datblygu gennym, gan eu cefnogi i ystyried sgiliau, amrywiaeth a chynhwysiant, ac effeithiau gwyrdd yn ogystal â'u helpu i sicrhau bod eu prosiect yn y sefyllfa gorau posib i'w ariannu.
- Darparu cymeradwyaeth allweddol ar brosiectau yn y cam datblygu er mwyn rhyddhau taliadau fesul cam, gan gynnwys cymeradwyo drafftiau sgript, deunyddiau cyflwyno, ac ar gyfer rhai dyfarniadau diweddarach, cynlluniau ariannu, cyllidebau neu amserlenni, ymhlith elfennau eraill.
- Cwrdd â gwneuthurwyr ffilm i'w cynghori am ein cyllid, ac yn enwedig annog amrywiaeth eang o ymgeiswyr, yn unol â'n Cynllun Gweithredu Mae Ffilm i Bawb.
- Cyfrannu at strategaeth yr adran ddatblygu talent sy’n cynnwys sesiynau cynghori, dosbarthiadau meistr, adnoddau, hyfforddiant, a chyllid ar gyfer cyfleoedd datblygu gyrfa.
Sgiliau a Phrofiad
- Gallu adnabod a meithrin gwaith creadigol a thalent amrywiol.
- Profiad blaenorol o weithio mewn prosiect neu mewn rôl datblygu talent o fewn byd ffilm, teledu, theatr neu gynnwys ymdrochol.
- Profiad o ddarparu adborth strategol yn ogystal â golygyddol ar sgriptiau a phecynnau ffilmiau nodwedd a/neu ffilmiau byrion.
- Profiad a pherthnasoedd allweddol yn y diwydiant ffilm.
Desirable
- Profiad o weithio gyda chynnwys ymdrochol.
Sut i Ymgeisio
Oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat cais gwahanol gyda chi, dylech e-bostio CV a llythyr eglurhaol at Ihsana Feldwick ar ihsana@ffilmcymruwales.com gan nodi eich argaeledd a’ch profiad yn erbyn yr hyn a amlinellir yn y rhestr amodau isod.
Gyrrwch eich cais atom erbyn 22 Awst 2024, 5pm.
Nid yw Ffilm Cymru yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs, felly mae’n rhaid bod gennych Hawl i Weithio yn y DU eisoes i wneud cais am y rôl hon.
Cynhelir y cyfweliadau ar yr wythnos sy’n cychwyn 2 Medi 2024, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Cymorth Mynediad
Credwn mewn sector sgrin sy’n gweithio i bawb ac rydyn ni’n angerddol am ehangu mynediad i'r sector hwnnw.
Byddwn yn cynnig cyfweliad awtomatig i’r holl ymgeiswyr sy’n bodloni lleiafswm ein Meini Prawf ar gyfer y rôl ac sy’n uniaethu fel Pobl o’r Mwyafrif Byd-eang, fel Pobl Dduon, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig neu F/byddar, trwm eu clyw, Anabl neu niwroamrywiol.
Ar gyfer ymgeiswyr sydd ag anghenion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol, neu bobl sydd â nam ar eu golwg, mae cymorth ar gael i gwblhau eich cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cynnal cyfarfod cyn i chi wneud cais, neu gallwn gynnig cymorth ysgrifenedig i ymgeiswyr dyslecsig, neu gallwn gytuno ar fformatau amgen ar gyfer gwneud cais megis rhaglenni fideo neu ddeciau sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi.
Cysylltwch ag Ihsana Feldwick ar ihsana@ffilmcymruwales.com i drafod eich anghenion cyn i chi wneud cais.