a person on a film set holding a camera

Hwylusydd Lles: Trafodaeth Bord Gron i Gynhyrchwyr

12th May 2022, 12:00

Mae Ffilm Cymru yn gwahodd cynhyrchwyr i ddod i drafodaeth bord gron i glywed rhagor am sut mae’r rôl hon yn cael ei threialu, a sut y gall helpu i hyrwyddo a gweithredu amgylchedd gwaith cadarnhaol ar gynyrchiadau. 

Mae'r BFI wedi cynnig cyllid i sicrhau gwasanaeth Hwyluswyr Lles ar draws prosiectau a ariennir gan y BFI yn 2022. Bu hyn yn bosibl yn sgil arian y Loteri Genedlaethol, a thrwy gyd-weithio â 6ft From The Spotlight. Nôd y rôl yw hyrwyddo a hwyluso diwylliant gwaith cadarnhaol, yn ogystal â chynnig pwynt cyswllt annibynnol ar gyfer unrhyw faterion all godi – gan gynnwys pwysau neu straen, bwlio ac aflonyddu, gwahaniaethu, a diogelu oedolion – drwy gydol cylch oes y cynhyrchiad.

Yng Nghymru, mae cynllun peilot sy’n cael ei arwain gan CULT Cymru, mewn partneriaeth â 6 Ft From The Spotlight wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru/Cymru Greadigol ac Ymddiriedolaeth Darlledu Cymru, sy’n cynnwys hyfforddiant i 10 Hwylusydd Lles, cyrsiau byr ar gyfer y diwydiant, a bwrsariaethau i gwmnïau cynhyrchu (i’w lansio’n fuan).

Mae Ffilm Cymru yn gwahodd cynhyrchwyr i ddod i drafodaeth bord gron i glywed rhagor am sut mae’r rôl hon yn cael ei threialu, a sut y gall helpu i hyrwyddo a gweithredu amgylchedd gwaith cadarnhaol ar gynyrchiadau. Bydd Siân Gale o CULT Cymru a Michelle White o 6Ft From The Spotlight yn ymuno â ni, a bydd cyfle i gael sesiwn holi-ac-ateb.

Cynhelir y sesiwn hon ar gyfer cynhyrchwyr sy'n gweithio ar ffilmiau nodwedd neu ffilmiau byr, ac mae’n berthnasol i gynhyrchwyr sydd â phob math o brofiad ar bob lefel. Cynhelir y drafodaeth trwy gyfrwng y Saesneg a bydd yn cynnwys capsiynau byw a dehongliad BSL. Os hoffech fynychu a bod gennych unrhyw ofynion mynediad ychwanegol cysylltwch â Tracy Spottiswoode ar tracy@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 07902 492109 i drafod yn gyfrinachol.

Rôl yr Hwylusydd Lles ar gynyrchiadau yw cefnogi a chynghori’r Penaethiaid Adrannau a Chynhyrchwyr ar y ffordd orau i gyflawni eu dyletswyddau gofal cyfreithiol i’r criw a’r cast fel trydydd parti niwtral.

Gallant gynorthwyo i liniaru ac i ymchwilio i achosion o fwlio ac aflonyddu. Maent yno hefyd i gefnogi’r cast a’r criw gyda’u hiechyd meddwl, eu gwydnwch a’u lles eu hunain wrth iddynt weithio.

Gall y WBF hefyd ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i Benaethiaid Adrannau a Chynhyrchwyr lle bo angen, i leihau straen ac i atal problemau rhag codi o sefyllfaoedd rheoli anodd.

Ynglŷn â CULT Cymru

Mae CULT Cymru (Creative Unions Learning Together) yn rhaglen ddysgu a gefnogir trwy Gronfa Dysgu Undebau Cymru (WULF) Llywodraeth Cymru. Fe’i sefydlwyd yn 2008 ac fe’i rheolir gan Bectu, mewn partneriaeth ag Equity, Undeb y Cerddorion ac Urdd Ysgrifenwyr Prydain.

cult.cymru

Ynglŷn â 6Fft From The Spotlight

Ffurfiwyd 6ft From The Spotlight fel cwmni budd cymunedol nid-er-elw sy'n hyrwyddo newid cadarnhaol o fewn y diwydiannau creadigol. Maent yn bodoli i geisio gwella iechyd meddwl a lles holl weithwyr y diwydiant creadigol trwy hyfforddi, addysgu ac eirioli ar ran gweithleoedd sy’n gadarnhaol, yn iach, yn greadigol, yn gynhyrchiol ac yn cydymffurfio â’r gyfraith bresennol ar iechyd meddwl yn y gweithle.

6ftfrom.org