Gyrfaoedd Sgrin sgyrsiau panel
Ydych chi’n 16-25 oed? Eisiau dysgu am swyddi ffilm a theledu?
Mae Ffilm Cymru a Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru yn cyflwyno cyfres o sgyrsiau panel ar-lein gydag arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant a gweithwyr proffesiynol addawol ar gychwyn eu gyrfaoedd yn y diwydiant ffilm a theledu.
Cofrestrwch ar gyfer un neu ragor o’n sesiynau Gyrfaoedd Sgrin am ddim lle byddwn yn taflu goleuni ar y gwahanol rolau ar y daith o’r sgript i’r sgrin.
Cewch glywed awgrymiadau’r arbenigwyr ar gael eich troed yn y drws a symud ymlaen yn y diwydiant.
Mae ein siaradwyr yn cynnwys criw Doctor Who, Brave New World, King’s Speech, Westworld, Gangs of London, Casualty, Eastenders, Holby City, Being Human a Hinterland.
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, e.e. BSL, llais-i-destun, neu gyfieithu ar y pryd o’r Saesneg i’r Gymraeg, yn y ffurflen gofrestru er mwyn i ni drefnu cymorth.
Rhaglen o Ddigwyddiadau
29ain Hydref 2020
13.00 - 14.30, Digwyddiad 1: PANEL CREADIGOL A HOLI AC ATEB
Digwyddiad i’w gadeirio gan Lloyd Elis
Cynhyrchydd Gweithredol, Cyfarwyddwr, Awdur, Cyfarwyddwr 2il Uned, Cydlynydd Styntiau, Goruchwylydd VFX.
15.30 - 17.00, Digwyddiad 2: PANEL CYNHYRCHU A HOLI AC ATEB
Digwyddiad i’w gadeirio gan Faye Hannah
Rheolwr Llinell, Rheolwr Cynhyrchu, Rheolwr Lleoliadau, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cydlynydd Cynhyrchu, Rhedwr.
30ain Hydref 2020
13.00 -15.00, Digwyddiad 3: PANEL CELF A THECHNEGOL A HOLI AC ATEB
Digwyddiad i’w gadeirio gan Lloyd Elis
Dylunio, Effeithiau Arbennig, Gwisgoedd, Colur a Gwallt, Prostheteg, Camera, Sain, Goleuo, Grip
16:00 -17.30, Digwyddiad 4: PANEL ÔL-GYNHYRCHU A RHYDDHAU A HOLI AC ATEB
Digwyddiad i’w gadeirio gan Faye Hannah
Ôl-Gynhyrchu (Golygu, Cymysgu Sain a Graddio Lliwiau), Goruchwylydd Ôl-Gynhyrchu, Arddangos mewn Sinemâu, Gwerthiant a Dosbarthu.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol, mae Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru yn gweithio i ddatgelu’r amrywiaeth eang o rolau sy’n bodoli yn y sector creadigol a diwylliannol.