Changing the Focus gyda Disability Arts Cymru
Ffilm fer yw Changing the Focus a wnaed gan Ben Ewart Dean gyda grŵp o Academi Hijinx ac unigolion gydag anabledd dysgu, a oedd yn rhannu eu hanesion personol ac yn eu hegluro gyda lluniau o’u harchifau nhw eu hunain.
Canlyniadau
- Cafodd y rhai oedd yn cymryd rhan fudd o gael eu holi am y tro cyntaf ynghylch cynrychiolaeth pobl gydag anabledd mewn ffilm. Drwy wylio’r deunydd o’r archif, roedd modd mynegi barn a thrafod problemau mewn lle diogel.
- Dysgodd yr oedolion ifanc gydag anabledd dysgu sgiliau gwneud ffilm drwy gymryd rhan yn y prosiect. Hefyd, magwyd profiad drwy fod yn rhan o redeg y digwyddiadau cyhoeddusrwydd.
- Llwyddwyd wrth drafod dangos y ffilm ar ôl ei gorffen i godi ymwybyddiaeth ynghylch llawer o broblemau ynghylch bywydau’r bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru heddiw.
Llwyddiannau
Prif lwyddiant y prosiect oedd ansawdd y ffilm derfynol a gynhyrchwyd. Bob tro roedd yn cael ei dangos, roedd pobl yn canmol ei hansawdd a’i chynnwys. Roedd hyd yn oed bobl a oedd wedi gweithio gyda’r rhai oedd yn cymryd rhan wedi’u synnu mor rhugl oedden nhw wrth drafod eu teimladau a’u hagweddau tuag at y ffilm archif. Rydym ni wrth ein bodd gyda’r adborth positif a gafwyd, ynghylch gallu’r ffilm i godi ymwybyddiaeth o’r problemau a hefyd i ddangos gallu’r rhai oedd yn cymryd rhan.