Photo of a cabaret style room with people sitting and watching a panel discussion taking place on stage.

Storïwyr hinsawdd yng Nghymru yn archwilio ffyrdd newydd o ysbrydoli cynulleidfaoedd gyda Media Cymru a Ffilm Cymru Wales

Pum prosiect Ymchwil a Datblygu arloesol yn rhannu buddsoddiad o £100,000 o Gronfa Straeon Hinsawdd Media Cymru a Ffilm Cymru Wales.

Wedi’i lansio ym mis Rhagfyr 2024, cafodd y Gronfa Straeon Hinsawdd ei dyfeisio a’i chyflwyno gan Media Cymru a Ffilm Cymru Wales i gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu ar gyfer ffilmiau nodwedd neu brofiadau ymgolli sy’n rhannu straeon pwerus am hinsawdd ac yn ysgogi gweithredu mewn ffyrdd ffres ac apelgar. 

Roedd y gystadleuaeth yn hynod o gystadleuol. Dewisodd Media Cymru a Ffilm Cymru Wales bum prosiect gwych i fynd drwy’r broses ymchwil a datblygu carlam 4 mis o fis Ebrill i fis Awst 2025. Dechreuodd y broses gyda Diwrnod Cipolwg a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, lle dysgodd y timau wrth y siaradwyr gwadd, Yr Athro. Paul Behrens o Brifysgol Rhydychen, y gwneuthurwr ffilmiau Elham Ehsas, Dr Catherine Graves, Keir Oldfield-Lewis o’r BFI a Lisa Howe o gynllun albert BAFTA. 

Y pum prosiect a gefnogir drwy'r Gronfa Straeon Hinsawdd yw:

All Rivers Spill – Spill All Rivers

Joanna Wright, Tiny City

Prosiect newydd gan y gwneuthurwr ffilmiau Jeanie Finlay sy’n dychwelyd i arfordir Teeside lle cafodd ei magu. Drwy ddefnyddio technoleg ymgolli, mae All Rivers Spill – Spill All Rivers yn brosiect dogfen Realiti Estynedig (XR) cofleidiol. Oherwydd sensitifrwydd y pwnc dan sylw, mae manylion pellach ar gael ar gais.

Wedi’i sefydlu gan Joanna Wright, mae Tiny City yn gwmni o ogledd Cymru, o dan arweiniad artistiaid, sy’n datblygu prosiectau â lle canolog i ddylunio rhyngddisgyblaethol, cynhwysol. Gan weithio gyda rhwydwaith amrywiol o gydweithwyr creadigol yng Nghymru ac yn rhyngwladol, maen nhw’n  cynhyrchu prosiectau sy’n croesi rhwng dogfen, gosodweithiau a phlatfformau digidol, sydd wedi’u harddangos yn The Institute of Contemporary Art, Channel 4, BFI, BBC, The Space, Sky, True/False, MIT, IDFA, ac UNESCO.

Ceri (Teitl Dros dro)

Richard Billingham

Bydd y prosiect ymchwil a datblygu hwn yn archwilio profiadau bywyd pobl ifanc, yn enwedig eu meddyliau, eu teimladau, eu canfyddiadau a'u pryderon am newid hinsawdd a’r dyfodol. Bydd y stori yn cael ei hadrodd drwy sgriniau digidol bob dydd, gan gynnwys gemau fideo, ffonau clyfar, camerau goruchwyliaeth, dronau a chamerâu cloch drws. 

Mae’r artist a’r gwneuthurwr ffilmiau o Abertawe, Richard Billingham, wedi gweithio ym maes ffotograffiaeth, ffilm a fideo arbrofol, a chafodd ei enwebu am BAFTA yn y categori Ffilm Gyntaf Orau (2019) am Ray and Liz, a gefnogwyd gan Ffilm Cymru Wales. Fel Athro ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw, mae Richard yn gweld nifer o fyfyrwyr yn mynegi pryder torfol am newid hinsawdd a’u dyfodol.

Earth Speaks

Ashley Leung a Remi Bumstead, Tiny House Creatives

Mae yna bobl sy'n byw mewn perthynas ddofn â'r ddaear, sydd wedi bod yn dyst, wedi dogfennu ac wedi addasu i ganrifoedd o newidiadau ar y ddaear ac sy'n parhau i wneud hynny hyd heddiw. Bydd Earth Speaks yn archwilio pwysigrwydd yr arsylwadau hyn wrth siapio polisïau’r presennol, y rôl y mae’r brodorol yn ei chwarae wrth ddiogelu ein hecosystemau, a’r caneuon a’r straeon sy’n adlewyrchu cyd-gysylltiad dynoliaeth â natur ar draws pob diwylliant.

Dechreuodd taith Ashley i fyd ffilm gyda gradd sylfaen mewn cerddoriaeth, gan arwain at BSc mewn Technoleg Cerdd a phrofiad o weithio mewn stiwdios ar ADR, effeithiau sain, cerddoriaeth ac effeithiau arbennig ym maes ffilmiau. Wedi'i arwain gan ei natur ei hun, mae Ashley wrth ei fodd yn creu ffilmiau diffuant sy’n canolbwyntio ar yr elfen ddynol a byd natur sy'n cyfrannu at fyd-olwg mwy positif, gofalgar, cysylltiedig. Mae’r Cynhyrchydd a’r Cyfarwyddwr Remi, sy’n saethu ei ddeunydd ei hun, wedi gweithio o Adidas ac Arsenal i’r Cenhedloedd Unedig yn Somalia a ffilmio mewn amgylcheddau eithafol o’r Arctig i’r Amazon. 

Nora's Ark

Lowri Roberts a Maisie Williams, Rapt Pictures

Mae'r Ddaear wedi'i gwasgu'n sych o'i hadnoddau, mae'r diwedd yn agosáu. Ond mae yna gynllun i achub y ddynoliaeth, llong i achub ychydig o bobl ddethol. Wedi'i hadrodd drwy sawl persbectif, bydd y ffilm nodwedd hon yn cael ei saernïo yn seiliedig ar yr hyn y mae cynulleidfaoedd sy’n cael eu tan-gynrychioli ei eisiau.

Wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru a Gwlad yr Haf, mae Rapt yn gwmni cynhyrchu ffilmiau sy’n cael ei arwain gan enillydd BAFTA Cymru, y gwneuthurwr ffilmiau a’r cynhyrchydd Lowri Roberts a Maisie Williams y cynhyrchydd a’r actor a enwebwyd am wobr Emmy. Yn angerddol am yr amgylchedd, mae gan y cwmni nifer o brosiectau ar y gweill sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd. Maisie yw Llysgennad Byd-eang WWF a’r Dolphin Project.

Who Gives a F**k About Polar Bears?

Gavin Porter

Sut rydyn ni’n adrodd straeon am hinsawdd o bersbectif dosbarth gweithiol? Bydd y rhai sy'n cael eu herio'n economaidd ymhlith y rhai cyntaf i gael eu heffeithio gan yr argyfwng hinsawdd a'r rhai fydd yn cael eu heffeithio fwyaf, eto i gyd, prin iawn y clywir eu lleisiau yn y ddadl.  Mae Who Gives a F**K About Polar Bears yn brosiect traws-gyfrwng wedi'i angori gan raglen ddogfen nodwedd sy'n archwilio'r croestoriadau dwfn rhwng dosbarth cymdeithasol a hinsawdd.

Mae Gavin Porter yn storïwr sy’n ysgrifennu, yn cyfarwyddo ac yn cynhyrchu ffilmiau, theatr a radio. Wedi’i ysbrydoli gan ei  brofiadau o’i fagwraeth yn ardal Butetown yng Nghaerdydd, un o gymunedau aml-ddiwylliannol hynaf y DU, mae Gavin wedi creu cynyrchiadau theatr sydd wedi llenwi theatrau ar draws Cymru ac wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am ffilm ffuglen.

Dywedodd Lee Walters, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales: "Rydym wrth ein bodd cael cefnogi prosiectau sydd mor greadigol ac arloesol, ac a allai gael effaith gref, yn sgil ein Cronfa Straeon Hinsawdd. Mae'r syniadau yma nid yn unig yn adlewyrchu’r angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ar frys, ond hefyd y pŵer sydd gan straeon i ysbrydoli newid ac i sbarduno sgyrsiau ystyrlon.”

Dywedodd Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru “Ar ôl proses gystadleuol, rydyn ni’n  falch o weld ehangder y syniadau arloesol ymhlith y garfan olaf, a fydd yn archwilio ac yn datblygu eu syniadau drwy gydol y cyfnod ymchwil a datblygu sydd ar y gweill. Ar y cyd â Ffilm Cymru Wales, roeddem am weld amrywiaeth o arddulliau ffres i ysbrydoli cynulleidfaoedd tra'n adrodd stori ehangach yr argyfwng hinsawdd. Mae’r prosiectau terfynol yn enghreifftiau gwych o’r math o dalent sydd gennym yma yng Nghymru am adrodd straeon, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y syniadau hyn yn tyfu ac yn datblygu.”