Dangosiad Ffilmiau Casnewydd
Ymunwch â ni am noson o ffilmiau sy’n dathlu cymuned creadigol y ddinas.
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal gan Ffilm Cymru Wales a Chyngor Dinas Casnewydd yn Prifysgol De Cymru, yn cynnwys premiere o Rebels & Renaissance gan Keefa Chan, archwiliad sinematig o artistiaid Casnewydd a hanes dosbarth gweithiol gwrthryfel y siartwyr.
Cynhyrchwyd y ffilm ddogfen fer gan Rewired Life, ac mae’n dal hanfod cymuned eclectig ac amrywiol Casnewydd, sy’n llawn pobl greadigol lleol talentog, ac yn cynnwys cyfweliadau gyda Connor Allen, Juls Benson, Georgina Ella Harris, Mohamad Fez Miah a mwy. Sesiwn C&A gyda Keefa wedi’r dangosiad cyntaf.
Gyda rhagor o ffilmiau byrion gwych sydd wedi eu gwneud gan bobl leol yn ystod ein Gŵyl Sgiliau Ffilm Troed yn y Drws , yn ogystal â chyfle i rwydweithio gyda chymuned greadigol fywiog Casnewydd, mae hwn yn argoeli i fod yn le croesawgar i rannu eich straeon, i wneud cysylltiadau newydd, ac i ddarganfod pa gyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant ffilm o ran hyfforddiant a gyrfa.
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn partneriaeth â Newport Council, gyda nawdd ychwanegol yn sgil cefnogaeth Ffilm Cymru Wales a BFI NETWORK gydag arian y Loteri Genedlaethol.