still from chuck chuck baby featuring four people sitting on a wall and celebrating

Janis Pugh, gwneuthurwr Chuck Chuck Baby, yn sôn am gynrychiolaeth o’r dosbarth gweithiol & ysbrydoliaeth yng ngwobrau BAFTA Cymru

Mae tair ffilm a ariennir gan Ffilm Cymru Wales yn rhannu pum enwebiad yng Ngwobrau BAFTA Cymru eleni gan gynnwys y Ffilm Orau a’r Ffilm Fer Orau.

Mae Chuck Chuck Baby wedi ei henwebu ar gyfer tair gwobr BAFTA Cymru, gan gynnwys  y Ffilm Nodwedd/Teledu Orau, y Dylunio Gorau ar gyfer Cynhyrchiad i Caroline Steiner, a gwobr ‘Torri Drwodd’ Cymru i’r awdur-gyfarwyddwr Janis Pugh, tra bod Being Seen a Spectre of the Bear wedi eu henwebu ar gyfer y Ffilm Fer Orau.

Sêr Chuck Chuck Baby yw Louise Brealey ac Annabel Scholey. Mae’n ffilm sy’n sôn am gariad, colled a cherddoriaeth, ac mae wedi ei lleoli ynghanol y plu sy’n chwyrlïo yn yr awyr y tu mewn i ffatri ieir.

I ddathlu enwebiadau gwobrau BAFTA Cymru, bu i ni gwrdd â Janis Pugh, sy’n gyfrifol am Chuck Chuck Baby, i drafod sut y bu i’w chyfnod yn gweithio mewn ffatri ieir yng ngogledd Cymru ysbrydoli ei ffilm, pwysigrwydd rhannu straeon lleol, a sut mae Ffilm Cymru Wales wedi cefnogi ei thaith greadigol.

Gallwch wylio’r cyfweliad ar y fideo isod.

Cynhelir Gwobrau BAFTA Cymru eleni yng Nghasnewydd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ar ddydd Sul 20fed Hydref, ac mae tîm Ffilm Cymru Wales yn dymuno pob lwc i’r holl wneuthurwyr ffilm, i aelodau pob criw, ac i’r holl actorion a enwebwyd. Gweler y rhestr lawn o enwebiadau yma.