Ffilm cymru yn cwrdd â… Rhys Bugler
Yn ein cyfres newydd o fideos, byddwn yn eich cyflwyno i rai o’r bobl a’r sefydliadau sy’n rhan o gymuned greadigol fywiog ac amrywiol Cymru.
Bob wythnos, cawn glywed gan wneuthurwr ffilmiau, arddangoswr, addysgwr neu hyfforddai a fydd yn sôn wrthym ni am eu gwaith yn diwydiant ffilmiau Cymru, eu dyheadau, a sut mae cyllid Ffilm Cymru wedi cynorthwyo eu huchelgeisiau creadigol.
Ym mhennod ddiweddaraf y gyfres, Rhys Bugler o Theatr Fio sy’n sôn wrthym ni am yr hyn wnaeth danio ei ddiddordeb yn y theatr, sut wnaeth cronfa addysg Ffilm Cymru ei helpu i gynnal ysgol ffilm haf i bobl ifanc, a beth hoffai weld yn y dyfodol yn niwydiannau creadigol Cymru.