Cwrdd â gwneuthurwyr Beacons: Efa Blosse-Mason
Animeiddiad cyfrwng Cymraeg yw ffilm fer Efa Blosse-Mason, Cwch Deilen, sy’n archwilio’r gorfoledd a’r arswyd sy’n rhan o brofiad cyfnod cynnar perthynas.
Cyn darlledu’r ffilm, cawsom sgwrs gydag Efa am ei phroses artistig, ei hysbrydoliaeth o ran animeiddio a’i chynlluniau i’r dyfodol.
Haia Efa, allwch chi sôn ychydig amdanoch eich hun?
Cefais fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd; Saesnes yw fy Mam a Chymro yw fy Nhad, a chefais fy magu’n ddwyieithog. Fe es i i’r brifysgol ym Mryste. Yn fy ail flwyddyn, derbyniais ysgoloriaeth Erasmus a dewisais fynd i MOME, Budapest, lle cefais fy ysbrydoli’n fawr gan hanes a diwylliant Animeiddio Hwngari. Graddiais yn 2018 ac enillodd fy ffilm raddio Earthly Delights wobr myfyrwyr yr RTS.
Pa gyfryngau a phrosesau wnaethoch chi ddefnyddio i luniadu ac animeiddio Cwch Deilen?
Cafodd y cefndiroedd ar gyfer Cwch Deilen eu gwneud yn bennaf gan ddefnyddio paent a phasteli olew. Aberaeron, tref glan môr yng ngorllewin Cymru, yn agos i lle mae fy Mamgu yn byw, yw lle mae Cwch Deilen wedi’i gosod, ac fe dreuliais i sawl diwrnod yno yn braslunio’r harbwr, y cychod a’r môr. Cafodd yr animeiddio ei wneud yn ddigidol gan ddefnyddio meddalwedd TvPaint.
A oedd unrhyw ddylanwadau penodol ar arddull yr animeiddio?
Fe gefais i fy ysbrydoli gan Song Of The Sea a wnaed gan Cartoon Saloon, cwmni animeiddio o Iwerddon. Tomm Moore oedd y cyfarwyddwr ac Adrien Mérigeau oedd y cyfarwyddwr celf. Mae’n stori sydd wedi’i gosod heddiw, ond mae’n ymgorffori storïau a chwedlau Celtaidd hynafol. Yn y dyluniadau cefndir a’r animeiddio, fe allwch chi weld dylanwad celf werin Geltaidd a phersbectif gwastad cyntefig, sy’n gweithio mor dda ar gyfer ffilm animeiddiedig 2D. Rwy hefyd yn dwlu ar y trac sain, sy’n cynnwys llais arallfydol Lisa Hannigan, ac sydd hefyd yn ysbrydoliaeth i Casi Wyn (yr artist a greodd y trac sain i Cwch Deilen).
I ba wyliau mae’r ffilm wedi’i dewis, a pha fath o strategaeth oedd gennych chi wrth fynd i’r afael â nhw?
Rydyn ni wedi ein dewis ar gyfer Gŵyl Animeiddio Caerdydd, Gŵyl Animeiddio Berlin, Film With Pride, Gŵyl Ffilmiau The Flip Book, Gŵyl Animeiddio Manceinion, AnimaFilm Baku, AnimaSyros a Gŵyl Ffilmiau LGBT+ Gwobr Iris yn 2020. Ond, oherwydd sefyllfa Covid-19, cafodd rhai o’r gwyliau hyn eu canslo neu fe aethon nhw ar-lein. Mae wedi bod yn brofiad gwahanol iawn gwneud dangosiadau ar-lein yn hytrach na bod ym mhresenoldeb cynulleidfa a synhwyro eu hymatebion yn yr ystafell.
Pa gymorth gawsoch chi gan Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI?
Fe wnaeth Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI ariannu’r prosiect hwn drwy eu cynllun ariannu Beacons ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am y cyfle i greu’r ffilm hon. Dyma fy mhrosiect mwyaf uchelgeisiol hyd yma ac rwy wedi dysgu llawer iawn drwy’r prosesau o ysgrifennu, cyfarwyddo ac animeiddio’r ffilm ynglŷn â sut i ddefnyddio fy llais fel gwneuthurwr ffilmiau. Cynhaliodd Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI ddiwrnod i’r gwneuthurwyr ffilmiau i ddatblygu eu prosiectau o dan fentoriaeth Kate Leys, golygydd sgriptiau, a oedd yn eithriadol o ddefnyddiol i ddatblygu stori’r ffilm.
Beth fuoch chi’n gwylio yn ystod cyfnod y cloi?
Rwy wedi bod yn gwylio I May Destroy You sydd wedi’i hysgrifennu gan seren y gyfres, Michaela Coel. Mae’n dilyn menyw ifanc ddu a’i ffrindiau yn Llundain sy’n ymdrin â thrawma rhywiol. Rwy’n dwlu ar wylio sut mae’r cymeriadau’n datblygu wrth i’r gyfres fynd rhagddi. Maen nhw i gyd yn ymdrechu i brosesu’r amryw bethau cymhleth mae bywyd yn eu taflu atynt. Awdur yw’r prif gymeriad ac mae’n ymddangos yn hunangofiannol, fel petaech chi’n gwylio byd oddi mewn i fyd, lle mae menyw yn ysgrifennu stori er mwyn mynd i’r afael ac ymgymodi â’r holl bethau a ddigwyddodd iddi. Rwy’n credu mai dyma pam fy mod i eisiau creu ffilmiau hefyd. Mae’n ffordd i wneud synnwyr o’ch profiadau a’u rhannu gyda’r byd.
Beth sydd gennych chi ar y gweill nesaf?
Rwy nawr yn gweithio ar gywaith gyda’r bardd Hanan Issa ar ffilm farddoniaeth fer o’r enw Blodeuwedd’s Gift. Mae gweithio â cherdd yn brofiad diddorol, a gwneud i’r elfennau gweledol nid yn unig ddarlunio’r hyn mae’r geiriau yn ei ddweud ond hefyd ychwanegu ystyr newydd. Rwy hefyd wedi bod yn gweithio ar fideos cerdd a byddwn i wrth fy modd yn cael gweithio ar ffilm ddogfen ryw ddydd oherwydd rwy’n credu bod animeiddio a dogfen yn gweithio mor dda gyda’i gilydd.
Cynhyrchwyd Cwch Deilen gan Amy Morris yng Nghynyrchiadau Winding Snake drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI mewn cyswllt â BBC Cymru.