Ar y ffordd cyn hir gan Ffilm Cymru
O ffilmiau comedi twymgalon i ffilmiau arswyd iasol, mae ffilm Gymreig i bawb ar y ffordd. Cadwch lygad am y chwe ffilm yma a ariannwyd gan Ffilm Cymru sydd ar eu ffordd i sinemâu a sgriniau gartref cyn hir.
Six Minutes to Midnight
Awst 1939, ac mae’r Ail Ryfel Byd ar fin cychwyn. Mae uwch awdurdodau’r Natsïaid wedi hanfon eu merched i dref glan-môr yn Lloegr i ddysgu’r iaith ac fod yn llysgenhadon at y dyfodol. Mae’r athro ysgol, Thomas Fisher, yn gweld beth sydd ar y gweill, ond a wnaiff unrhyw un wrando?
Gydag Eddie Izzard a Judi Dench, yn serennu, bydd ffilm ryfel gyffrous Mad as Birds Films yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar Sky Cinema ar 26ain Mawrth 2021, cyn cael ei rhyddhau mewn sinemâu pan fyddan nhw ar agor.
Rare Beasts
Mam, awdur a nihilydd yw Mandy, ac mae’n fenyw fodern mewn argyfwng. A hithau’n magu ei mab, Larch, yng nghanol chwyldro menywod, ac yn cloddio poen ei rhieni’n gwahanu ac yn ysgrifennu’n broffesiynol am gariad nad yw’n bodoli mwyach, mae’n cwrdd â dyn gofidus, Pete, sy’n chwilio am synnwyr o werth a theimlad o berthyn, ac eisiau ‘adfer’ ei hunaniaeth wrywaidd.
Dyma ffilm gyntaf dewr a beiddgar Billie Piper fel cyfarwyddwr. Caiff ei chynhyrchu gan Western Edge Pictures, a chaiff ei rhyddhau yn y DU ar 21ain Mai 2021 gan Republic Film Distribution.
Dream Horse
Dyma stori wir ryfeddol Jan Vokes, glanhawr a gweithiwr bar, sy’n penderfynu ar fympwy ei bod am fridio a magu ceffyl rasio yn ei phentref yng Nghymru. Mae’n darbwyllo ei chymdogion i fuddsoddi yn ei chynllun rhyfeddol, ac ar y cyd maen nhw’n rhoi’r enw ‘Dream Alliance’ i’r ebol bach. Yn brin o brofiad ond â chalon gref, mae’r criw o’r pentref yn dilyn “Dream” yn erbyn pob disgwyl wrth iddo godi drwy’r rhengoedd a hawlio ei le ymysg y goreuon yn y bencampwriaeth genedlaethol gyffrous.
Cyfarwyddwyd Dream Horse gan Euros Lyn a’r sêr yw Toni Collette a Damian Lewis. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yn Sundance ym mis Ionawr 2020 a chaiff ei rhyddhau yn y DU yn 2021 gan Warner Bros.
Censor
Pan mae’r sensor ffilmiau, Enid (Niamh Algar), yn darganfod ffilm arswyd iasol sy’n ddrych i ddiflaniad dirgel ei chwaer, mae’n mynd ati i ddatrys y dirgelwch y tu ôl i’r ffilm a’i chyfarwyddwr enigmatig. Dyma gwest a fydd yn pylu’r ffiniau rhwng ffuglen a realiti mewn ffyrdd dychrynllyd.
Wedi’i chyfarwyddo gan Prano Bailey-Bond a’i hysgrifennu gan Prano Bailey-Bond ac Anthony Fletcher, caiff Censor ei chynhyrchu gan Helen Jones o Silver Salt Films a bydd yn cael dangos yn Sundance a Berlinale yn gynnar yn 2021.
Gwledd / The Feast
Caiff y stori arswyd gyfoes hon yn y Gymraeg ei datgelu dros gyfnod o un noson wrth i deulu cefnog ddod ynghyd i gael swper moethus yn eu tŷ crand ym mynyddoedd Cymru. Gŵr busnes lleol a ffermwr cyfagos yw’r gwesteion, a’r bwriad yw taro bargen fusnes i gloddio yn yr ardal wledig o amgylch. Pan mae menyw ifanc ddirgel yn cyrraedd i weini arnynt am y noson, caiff credoau a gwerthoedd y teulu eu herio wrth i’w phresenoldeb tawel ond aflonyddgar ddechrau datod eu bywydau. A hynny’n araf a bwriadol, gan arwain at y canlyniadau mwyaf dychrynllyd.
Dyma ffilm nodwedd gyntaf y cyfarwyddwr Lee Haven-Jones a’r awdur-gynhyrchydd Roger Williams, a’r sêr yw Annes Elwy, Nia Roberts a Julian Lewis Jones ynghyd â Steffan Cennydd a Sion Alun Davies. Dangoswyd Gwledd / The Feast am y tro cyntaf yn SXSW ym mis Mawrth a chaiff ei rhyddhau yn y DU gan Picturehouse Entertainment (dyddiad i’w gadarnhau).
The Toll
Ffilm y gorllewin gwyllt o orllewin Cymru yw The Toll, gyda Michael Smiley yn serennu fel gweithiwr tollborth a chanddo hanes troseddol. Annes Elwy wedyn sy’n portreadu’r swyddog traffig lleol y bydd ei llwybr, heb os, yn arwain at y tollborth. Sêr eraill y ffilm yw Iwan Rheon, Paul Kaye, Gwyneth Keyworth, Steve Oram, a Julian Glover.
The Toll yw ffilm nodwedd gyntaf y cyfarwyddwr Ryan Andrew Hooper a’r awdur Matt Redd, a chafodd ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Glasgow ym mis Chwefror. Dyddiad rhyddhau yn y DU i’w gadarnhau.