2022 Gwledd Ffilm arswyd Gymraeg gyfoes, wedi ei lleoli yn nhirwedd hardd ond hagr Eryri, am fenyw ifanc sy’n dychwelyd adref dan amgylchiadau amheus.
2021 Censor Wedi gwylio fideo ffiaidd, sydd yn rhyfedd o gyfarwydd, mae Enid, sy’n sensor ffilm, yn penderfynu ceisio datrys dirgelwch pam a sut fu ei chwaer ddiflannu, ac mae’n cychwyn ar daith sy’n chwalu’r llinell rhwng ffuglen a realaeth.
2021 Concrete Plans Mae criw o adeiladwyr yn credu iddynt ladd perchennog ffermdy diarffordd yn ddamweiniol, a cânt eu gyrru i drobwll o ddewisiadau moesol hynod dywyll.
2021 Dream Horse Stori wir Jan Vokes, glanhawraig sydd hefyd yn gweithio mewn bar, sy’n penderfynu, ar amrantiad, i fridio a magu ceffyl rasio yn y pentref Cymreig mae’n byw ynddo.
2021 Rare Beasts Mae Mandy yn fam, yn awdures ac yn nihilydd. Mae Mandy yn fenyw fodern mewn argyfwng.
2021 The Toll Comedi ddu arswydus sy’n adrodd hanes dyn sy’n gweithio ar ei ben ei hun mewn bwth tollau y mae ei orffennol yn prysur ddal i fyny ag ef.
2020 Eternal Beauty Pan gaiff Jane ei gwrthod gan fywyd mae’n disgyn i fyd gwallgof, sgitsoffrenig ble mae cariad a normalrwydd yn gwrthdaro gyda chanlyniadau doniol.
2020 Nuclear Mewn pentref bychan yng nghysgod gorsaf bŵer niwclear, mae’n rhaid i deulu tocsig sydd â gorffennol ymfflamychol wynebu’r ysbrydion sy’n bygwth eu dyfodol.
2019 Rockfield: The Studio on the Farm Ffilm dogfen gerddorol hir sy’n adrodd hanes rhyfeddol dau frawd o Gymru a drodd eu ffarm yn un o’r stiwdios recordio mwyaf llwyddiannus erioed.
2018 Being Frank: The Chris Seivey Story Stori wir yr artist, y cerddor a’r comedïwr Chris Sievey, a’i alter ego Frank Sidebottom.
2018 Denmark ’Rydych yn ddi-waith, heb yr un sgìl ac wedi diflasu. Mae celloedd carchardai Denmarc yn debyg iawn i fflatiau moethus gyda setiau teledu a phrydau bwyd yn rhad ac am ddim. Beth fyddech chi’n ei wneud?
2018 Gwen Yng nghanol harddwch hagr Eryri yn y 19eg ganrif, mae merch ifanc yn ceisio’i gorau i gynnal ei theulu a’i chartref.
2018 Last Summer Mae pedwar o fechgyn ifanc yn crwydro cefn gwlad Cymru yn ystod un o hafau poeth y 1970au, nes i drasiedi ddod ar eu traws sy’n newid eu bywydau am byth.
2018 Obey Mewn cyfnod gwyllt sydd ar fin esgor ar aflonyddwch cymdeithasol dramatig, mae dau fyd gwahanol iawn yn gwrthdaro gyda chanlyniadau trasig i stori garu arbennig.
2018 Ray & Liz Wedi ei ysbrydoli gan atgofion y ffotograffydd enwog Richard Billingham Portread, dyma bortread cyffrous o deulu ym Mhrydain yng nghyfnod Thatcher, ble gall bywyd ar gyrion cymdeithas chwyrlïo allan o reolaeth.
2018 The Ballymurphy Precedent Mae’r ffilm ddogfen hir yma’n adrodd straeon teuluoedd deg o Gatholigion oedd yn byw ar Ystâd Ballymurphy, Gogledd Iwerddon yn 1971.
2017 B&B Mae dau Lundeiniwr hoyw, Mike a Fred, yn cynllunio penwythnos llawn direidi wrth ddychwelyd i herio perchennog Cristnogol llety Gwely a Brecwast sydd wedi ei erlyn gan y gyfraith.
2017 Moon Dogs Hanes dau lysfrawd ifanc, Michael a Thor, wrth iddynt deithio o Shetland i Glasgow am resymau gwahanol iawn.
2017 Queerama Crëwyd Queerama o’r cyfoeth sydd i’w ddarganfod yn Archif Cenedlaethol y BFI, ac mae’n portreadu canrif o berthnasau, dyheadau, ofnau ac ymadroddion dynion a menywod hoyw.
2016 Don't Knock Twice Er mwyn achub ei merch sydd wedi ymbellhau oddi wrthi, mae’n rhaid i fam sy’n llawn euogrwydd ddatgelu’r gwirionedd arswydus sy’n bodoli y tu ôl i chwedl ddinesig am wrach atgas, ddialgar.
2016 Ethel & Ernest Yn seiliedig ar lyfr gwobrwyol Raymond Briggs, mae’r ffilm nodwedd hon, sydd wedi ei hanimeiddio â llaw, yn cynnig darlun hoffus ac annwyl o fywyd dau o bobl gyffredin sy’n byw mewn cyfnod anghyffredin, gyda’r gymdeithas yn newid yn aruthrol o’u hamgylch.
2016 I Am Not a Witch Wedi digwyddiad dibwys yn ei phentref, mae Sula, sy’n 9 oed, yn cael ei halltudio a’i gyrru i wersyll gwrachod ble caiff ei bygwth: os bydd yn ceisio dianc bydd yn cael ei throi’n afr.
2016 The Chamber Ger arfordir Gogledd Korea mae uned arbennig yn meddiannu llong ymchwil fasnachol a’i siambr danddwr er mwyn darganfod lleoliad gwrthrych dirgel sydd wedi suddo i ddyfnderoedd y Môr Melyn.
2016 The Lighthouse (2016) Stori gynhyrfus am farwolaeth, unigrwydd a niwrosis. Mae’r ffilm arswyd seicolegol hon yn seiliedig ar ddirgelwch morwrol o’r 19eg ganrif, gan adael un ceidwad goleudy yn farw a’r llall yn wallgof.
2016 Y Llyfrgell / The Library Suicides Mae gefeilliaid yn gosod trap yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn dal pwy bynnag laddodd eu mam oedd yn nofelydd.
2015 A Dark Song Mae mam yn galaru am ei phlentyn ac yn cyflogi ocwltydd i gynnal defod i sicrhau bod ei hangel gwarcheidiol yn ymddangos.
2015 Just Jim Mae Jim yn unig ond mae ei fywyd yn newid yn sylfaenol pan daw cymydog newydd enigmatig i’r dref.
2015 Yr Ymadawiad / The Passing Mae gwirioneddau trasig yn dod i’r fei wrth i fywyd cwpwl ifanc wrthdaro â dyn cythryblus sy’n byw mewn cwm unig yng Nghymru.
2014 Alfred & Jakobine Ffilm ddogfen hir yn adrodd hanes taith un dyn i gymodi â’i wraig yn y tacsi fu’n gyfrifol am eu cyfarfyddiad cyntaf degawdau ynghynt.
2014 American Interior Ffilm ddogfen gan y cerddor unigryw Gruff Rhys sy’n ei ddilyn ar daith gerddorol drwy America wrth iddo ail-gerdded yn esgidiau un o’i hynafiaid o’r 18fed ganrif, Don Juan Evans.
2014 Bastards Ffilm ddogfen am blant anghyfreithlon Morocco, y tadau sy’n eu gadael, a’r mamau sengl sy’n cwffio am gyfiawnder.
2014 Bypass Mae Tim yn fachgen da, mae Tim yn droseddwr. Ac mae’n rhaid i Tim gadw’i deulu yn fyw yn wyneb haint marwol.
2014 Dan y Wenallt / Under Milk Wood Addasiad Cymraeg radical, swrrealaidd ac erotig o ddrama radio glasurol Dylan Thomas, Under Milk Wood.
2014 Dark Horse Stori epig ceffyl rasio y daeth ei daith helbulus drwy fywyd yn symbol o obaith i’r gynghrair Gymraeg a fuddsoddodd eu ceiniogau prin, a’u calonnau, ynddo.
2014 Set Fire to the Stars Mae academydd yn ceisio ffrwyno dyn gwyllt byd barddoniaeth Cymru yn ystod taith gynhyrfus o amgylch America.
2014 The Canal Mae dyn sy’n amau bod ei wraig yn ei dwyllo yn credu bod eu tŷ yn cael ei aflonyddu gan bresenoldeb drwg sy’n ei annog i ddial arni mewn modd dychrynllyd.
2014 The Silent Storm Mae gwraig ifanc sy’n galaru yn cael ei dal rhwng ei gŵr gormesol a throseddwr ifanc sy'n cael ei yrru i fyw atynt.
2013 Another Me Mae bywyd Fay, merch ifanc yn ei harddegau, yn ymddangosiadol berffaith ond go iawn mae’n dechrau dirywio.
2013 The Machine Yn un o leoliadau cyfrinachol y llywodraeth mae gwyddonydd blaenllaw yn cael ei gyflogi gan y llywodraeth i greu arf go arbennig, y peiriant gorau erioed i ladd androidau.
2012 In the Dark Half Mae merch yn ei harddegau yn brwydro i ddal gafael ar ei phwyll yn y ffilm arswyd oruwchnaturiol hon.
2012 The Gospel of Us Michael Sheen sy’n arwain y dehongliad newydd hwn o gynhyrchiad arloesol National Theatre Wales o Ddrama’r Dioddefaint.
2012 We Went to War Ffilm ddogfen delynegol wedi ei lleoli mewn tref yn Tecsas, sy’n rhannu profiadau rhai o’r milwyr fu’n ymladd yn Fietnam gyda milwyr fu’n rhan o ryfeloedd mwy diweddar.
2011 Hunky Dory Drama gerdd hwyliog yn dathlu criw o bobl ifanc o Abertawe wrth iddynt ddod-i-oed yn ystod haf hir poeth ’76.
2011 Resistance Wedi ei lleoli mewn Ail Ryfel Byd amgen, ble mae’r Natsïaid wedi goresgyn Prydain, mae menywod cymuned amaethyddol yn datblygu perthynas llawn tensiwn gyda’r meddianwyr.
2011 The British Guide to Showing Off Archwiliad lliwgar o fywyd a gwaith Andrew Logan wrth iddo baratoi ar gyfer ei sioe Miss World amgen.
2010 I Am Slave Mae tywysoges o Nuba yn cael ei herwgipio yn y Swdan a’i chadw fel caethferch ym Mhrydain.
2010 Patagonia Mae pâr ifanc yn teithio i Batagonia er mwyn ymweld â’r gymuned Gymraeg sy’n byw yno, ac ar yr un pryd mae hen fenyw o’r Ariannin yn dychwelyd i wlad ei chyndadau - Cymru.
2010 Separado! Miwsical seicadelig sy’n dilyn Gruff Rhys, yr eicon Cymreig, ar daith drawsgyfandirol wrth iddo chwilio am ei ewythr coll o Batagonia, y gitarydd Rene Griffiths.
2010 Submarine Mae gan Oliver Tate, sy’n 15 oed, ddwy nod: colli ei wyryfdod ac achub ei fam rhag ei chariad cyfrin.
2009 Mugabe and the White African Mae ffermwr gwyn penderfynol o Zimbabwe yn mynd â Robert Mugabe i'r llys hawliau dynol i herio'r rhaglen atafaelu tir yn y rhaglen ddogfen nodwedd hon sydd wedi ennill sawl gwobr.