two people working with cables

Y diwydiant diwylliannol yng Nghymru yn addysgu'r genhedlaeth nesaf am yrfaoedd creadigol

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn lansio rhaglen weithgareddau ledled Cymru i sicrhau y gall doniau mwy amrywiol ymgeisio am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol.

Rydym wedi cyffroi bod y diwydiant yn gosod ei hun wrth galon ymdrechion i ddylanwadu a hysbysu pobl ifanc yng Nghymru am ehangder y swyddi ar draws y diwydiannau creadigol. Bydd Wythnos Ddigidol Darganfod! Gyrfaoedd Creadigol yn gweithio i gefnogi amrywiaeth eang o bobl ifanc i ddysgu am swyddi go iawn gan y rheiny sy'n eu gwneud, taflu goleuni ar yr ystod eang o sgiliau sydd eu hangen ar y sector ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ystyried y gyrfaoedd creadigol sydd ar gael iddynt hwy.

Yn fenter gyda Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru (CCP Cymru), bydd Wythnos Ddigidol Darganfod! Gyrfaoedd Creadigol yn darparu rhaglen yrfaoedd ar-lein yn seiliedig ar y diwydiant sydd ar gael i ysgolion, ymgynghorwyr gyrfaoedd, pobl ifanc a phobl sy'n newydd i'r sector, y gellir ei defnyddio yn ystod yr wythnos ei hun ac ar ôl hynny, pan fydd ar gael ar wefan discovercreative.careers a Sianel YouTube Darganfod! Gyrfaoedd Creadigol.

Drwy gydol yr wythnos, caiff pobl ifanc glywed gan amrywiaeth o arbenigwyr y diwydiant ynglŷn â'u teithiau gyrfaol.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Mae sgiliau wedi eu cydnabod fel blaenoriaeth ar gyfer Cymru Greadigol. Fel diwydiant sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru, mae'n bwysig ein bod yn gallu ateb y galw cynyddol am weithlu medrus ar draws ehangder y sector Diwydiannau Creadigol - ac rydym yn falch iawn ogefnogi Sgiliau Creadigol a Diwylliannol ar raglen sy'n gweithio gyda phobl ifanc i godiymwybyddiaeth a diddordeb yn yr amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaoedd creadigol sydd ar gaelyn y sector."

Dywedodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Ffilm Cymru: "Mae Ffilm Cymru yn falch iawn o fod yn cydweithio â'r rhaglen bwysig hon sy'n anelu at wella gallu ac amrywiaeth y sector. Mae hyn yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o'r ystod eang o swyddi sydd ar gael yn y sector; y sgiliau trosglwyddadwy sy'n berthnasol a'r llwybrau tuag at y sector a'r llwybrau datblygu drwy'r sector."

Mae'r rhaglen CCP Cymru ar flwyddyn beilot, ac eisoes wedi darparu sesiynau hyfforddi i 225 o ymgynghorwyr gyrfaoedd ledled Cymru, gan gefnogi eu dealltwriaeth o'r swyddi amrywiol yn y sector, a throsglwyddedd sgiliau a swyddi o un maes i'r llall.

Digwyddiad terfynol y rhaglen 2020 yw darparu cynhadledd ar-lein ar 9 Rhagfyr. Bydd ymgynghorwyr gyrfaoedd yn ymgysylltu ag arbenigwyr y diwydiant mewn sesiynau rhyngweithiol lle arddangosir sgiliau sy'n benodol i'r sector. Nod hyn yw gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymgynghorwyr gyrfaoedd ynglŷn â'r ehangder cyfleoedd yn y diwydiannau creadigol, a gwella'r cyngor ac arweiniad a roddir i bobl ifanc.

Dywedodd Karen Newman, Cyfarwyddwr Ariannol a Phrif Weithredwr Dros Dro, Sgiliau Creadigol a Diwylliannol: "Rydym yn cydnabod bod canllawiau ynghylch yr ystod o alwedigaethau yn ein sector yn brin, ac mae argaeledd cyfleoedd yn aml wedi ei gamddeall gan bobl ifanc a'r rheiny sy'n gweithio gyda nhw. Rydym eisiau helpu i newid hyn fel bod ystod ehangach o ddoniau yn gallu cael mynediad at weithlu'r diwydiannau creadigol yng Nghymru, gan ei helpu i ffynnu am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd Seetha Kumar, Prif Weithredwr ScreenSkills: “Fel corff sgiliau diwydiannau sgrin y DU, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'n cydweithwyr yng Nghymru yn helpu i lywio ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddoniau ynghylch y cyfleoedd mewn ffilm a theledu, effeithiau gweledol, animeiddio a gemau. Mae'n bwysig agor y sector i amrywiaeth ehangach o ddoniau a bydd y rhaglen hon yn cyfrannu at gyflawni'r nod hwnnw."

Mae CCP Cymru yn dilyn llwyddiant y Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol yn Lloegr, a gafodd ei lansio yn 2019 ac a ddarparodd dros 1000 o brofiadau ymarferol a chyflwyno dros 90,000 o bobl ifanc i'r amrywiaeth o swyddi yn y sector diwylliannol. Bydd y rhaglen hon yn parhau â'i Hwythnos Ddigidol Darganfod! ei hun yn gynnar yn 2021, mewn partneriaeth â ScreenSkills a Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol.

Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Cymru Greadigol, mae Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru (CCP Cymru) yn cael ei harwain gan Sgiliau Creadigol a Diwylliannol mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru, ScreenSkills a Trac Cymru.