philip on set

Philip Cholewa

Oed: 29
O: Wrecsam
Cynhyrchiad: Craith / Hidden
Adran: Golygu

“Cyn Troed yn y Drws roeddwn i’n teimlo fod yna ddiffyg cyfleoedd a chysylltiadau yn y diwydiant yn ogystal â diffyg gwybodaeth ynglŷn â ble a phryd roedd cyfleoedd ar gael. Gwaith caib a rhaw oedd  y rhan fwyaf o’r gwaith roeddwn i’n ei wneud o’r blaen.

Mae Troed yn y Drws wedi:

  • Agor llwybr i mi i mewn i’r diwydiant a rhoi cysylltiadau i mi sy'n anfon manylion cyfleoedd ataf.
  • Wedi dysgu i mi’r etiquette o fod ar set a beth ddylwn i fod yn ei wneud i ddechrau adeiladu portffolio ar gyfer y diwydiant.  
  • Rhoi hwb i’m hyder a mynd am dan y cyfleoedd
  • Dangos i mi fod y diwydiant yn chwilio bob amser am bobl gyda sgiliau a phrofiadau diddorol

“Ers cymryd rhan yn Troed yn y Drws, rwyf wedi mynychu nifer o wyliau a gweithdai ffilm. Rwyf hefyd wedi gweithio ar brofiad gwaith yn golygu ffilm fer. Fy llwyddiant mwyaf oedd helpu i gychwyn grŵp ffilm amatur yn Wrecsam gyda’r bwriad o wneud nifer o ffilmiau byr am yr ardal.”

“Byddwn yn bendant yn argymell Troed yn y Drws i unrhyw un â diddordeb mewn ceisio mynd i'r diwydiant ffilm; mae’n ffordd ardderchog o ddysgu am eich dewis faes ac o fagu cysylltiadau yn y diwydiant ffilm."

Philip is currently studying Computer Game Development at Wrexham Glyndwr University, and has received an Ymddiried / Welsh Broadcasting Trust bursary to loan a Mac Laptop with software to continue developing his editing skills and take on freelance editing projects.